#3: Cors Crymlyn
Sownd [ar safle]
Abertawe
12.09.26
Manon Awst + Dylan Huw
Eddie Ladd
Carwyn Graves
Mae Sownd [ar safle] yn gyfres o dri digwyddiad byw, safle-benodol ar gorsydd ledled Cymru – gwahoddiad i fynd yn sownd yn safleoedd gwlyb ac ansefydlog. Mae’n rhan o Sownd, prosiect ar gyfer y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia. Bydd y rhaglen yn digwydd ar gorsydd ar draws Cymru, wedi eu cydlynu gan yr artistiaid Manon Awst a Dylan Huw, gyda thîm curadurol Sownd ac artistiaid gwadd.
Mae Sownd [ar safle] yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru i suddo'n ddyfnach i themâu a deunyddiau Sownd. Sail yr arddangosfa yn Fenis a'r rhaglen safle-benodol hon yw ymchwil Manon Awst a Dylan Huw ar fawndiroedd: amgylcheddau gludiog ac ansefydlog, sy'n cuddio ac yn datgelu graddfeydd eang o hanes materol. Mae'r safleoedd hyn, sy’n gyfansawdd o fater organig a chof diwylliannol, yn dod yn ofodau ar gyfer llywio hanesion gwaddodedig iaith, diwylliant ac ecoleg. Mae partneriaeth ryng-ddisgyblaethol Manon a Dylan yn gwahodd cysylltiadau ar draws ffiniau, wedi'u saernïo gan waddol unigryw traddodiadau “byw” barddonol a safle-benodol yng Nghymru.
Lleoliad y trydydd digwyddiad yw Cors Crymlyn, ger Abertawe, ar ddydd Sadwrn 12fed o Fedi 2026 rhwng 2-4yh. Bydd yn cyflwyno ymatebion byw a gynhyrchwyd yn arbennig i'r safle a themâu'r prosiect gan artistiaid Sownd Manon Awst a Dylan Huw, y perfformiwr Eddie Ladd, a'r awdur Carwyn Graves.
Bydd bysiau am ddim yn cludo’r gynulleidfa o Orsaf Trên Abertawe; gofynnwn i bawb ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i leihau straen ar y safle. Bydd y bysiau yn rhedeg o Orsaf Trên Abertawe am 1:30pm and 1:45pm
Nodwch:
Mae hwn yn ddigwyddiad awyr-agored, ac mae hygyrchedd yn gyfyngedig.
Gwiriwch y rhagolygon tywydd cyn y digwyddiad a gwisgwch ddillad addas.
Mae toiledau ar y safle, yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Bydd y perfformiad yn digwydd rhwng 2-4yh.
Cysylltwch â lily.cymruynfenis@gmail.com os oes unrhyw gwestiynau.
Sownd [ar safle] #3: Cyfranwyr Cors Crymlyn
Perfformwr yw Eddie Ladd sy’n byw yng Ngheredigion. Mae’n creu gwaith personol a gwleidyddol sy’n defnyddio dawns, geiriau, technoleg, a cherddoriaeth. Ers tri degawd, mae’n un o brif ffigyrau’r theatr Gymreig, yn adnabyddus am ei pherfformiadau aml-blatfform corfforol a deinamig. Gweithiodd gyda Brith Gof am dros ddegawd, ac mae wedi teithio’n rhyngwladol efo’i gwaith ei hun, gan gynnwys sioeau am gangsters Miami, Bobby Sands, Maria Callas, Caitlin Thomas, a – ran amlaf – ei milltir sgwâr.
Mae Carwyn Graves yn awdur ac ecolegydd sy’n byw yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei gyfrol Tir: The Story of the Welsh Landscape ei enwebu am wobr Llyfr y Flwyddyn, a cafodd Cynefin: Wisdom from a Thousand Years of Welsh Nature Poetry ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026. Mae’n un o ymddiriedolwyr cyntaf yr elusen Cegin y Bobl.
Mae Manon Awst yn artist sy’n byw yng Nghaernarfon, sy’n gweithio mewn modd safle-benodol gyda cherflunwaith a pherfformio. Galluogodd Gymrodoriaeth Ymchwil gan sefydliad Henry Moore a Chymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol hi i ddatblygu ei hymchwil ar fawndiroedd. Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth y DG a Senedd Cymru.
Mae Dylan Huw yn sgwennwr ac artist sy’n cydweithio ar draws ieithoedd a disgyblaethau. Cafodd prosiectau diweddar eu cefnogi gan y Jerwood Foundation, Artes Mundi, LUX a Mostyn. Mae ei sgwennu beirniadol wedi ei gyhoeddi gyda Frieze, e-flux ac Art Monthly, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer yr International Award for Art Criticism ddwywaith.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.