Gweithdy Brodwaith ar thema Tapestri Bayeux
I ddathlu arddangos Tapestri Bayeux yn y DU am y tro cyntaf ers bron i 1,000 o flynyddoedd, bydd y gweithdy hwn yn archwilio'r technegau brodio a ddefnyddiwyd i'w greu.
Gan ddefnyddio gwlân 'crewel' – fel y byddai gwnïwyr yr Oesoedd Canol wedi gwneud – byddwch yn dysgu pwyth Bayeux. Dyma'r dechneg o osod edau a'i chlymu (a elwir yn 'laid and couched' yn Saesneg) a ddefnyddiwyd i lenwi llawer o'r ceffylau, y ffigurau a'r motiffau ar hyd y tapestri. Byddwch hefyd yn dysgu amrywiaeth o bwythau 'crewel' eraill wrth i chi ail-greu'r creadur ag adenydd hwn, sydd wedi'i gymryd o'r tapestri gwreiddiol.
Yn addas ar gyfer dechreuwyr. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae Lucy Newman yn artist brodio â llaw sydd wedi ennill gwobrau, ac yn athrawes brofiadol. Enillodd Wobr Hand & Lock am Fbrodio yn 2022 ac mae hi'n dysgu technegau brodio â llaw traddodiadol a chyfoes.
Diwrnod llawn: 10.00am – 4.00pm
Dewch â chinio pecyn os gwelwch yn dda. Byddwn ni'n darparu diodydd.
£75.00 y person
* Gostyngiad o 10% i aelodau
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.