Dod yn Gen - Cerdded
gyda Simon Whitehead
Ymunwch â ni yn y Drenewydd ar gyfer y ddwy daith gerdded cen hyn dan arweiniad yr artist symudiad Simon Whitehead
"To move as lichen is to combine our differences, to be together in ways that we couldn’t if alone, to make something complex, unusual."
AM DDIM, ond archebwch eich lle os gwelwch yn dda. Croeso i roddion.

Taith Gerdded Dod yn Gen 1.
6ed Medi, 10.30am - 12.30pm
Yn dechrau ac yn gorffen yn Oriel Davies
Bydd hon yn daith gerdded i ddod ar draws cen ym mharc Dolerw, gyda'r artist symudiad Simon Whitehead ac Ellie Baggett o Natur am Byth. Bydd Simon yn rhannu rhai ymarferion symudiad ysgafn a myfyrdodau sy'n deillio o'i ymchwil ddiweddar, lle mae'n ceisio dysgu ffyrdd o fod a strategaethau ar gyfer addasu o'r organebau hynafol a dirgel hyn. Bydd Simon hefyd yn rhannu rhai recordiadau maes cen diweddar; gwahoddiadau i wrando ar y byd trwy gen.
Taith Gerdded Dod yn Gen 2 (llwybr hygyrch)
13eg Medi, 10.30am - 12.30pm
Yn dechrau ac yn gorffen yn Oriel Davies
Bydd hon yn daith gerdded hygyrch i ddod ar draws cen ym mharc Dolerw, gyda'r artist symudiad Simon Whitehead a'r ecolegydd Yusef Samari. Bydd Simon yn rhannu rhai ymarferion symudiad ysgafn a myfyrdodau sy'n deillio o'i ymchwil ddiweddar, lle mae'n ceisio dysgu ffyrdd o fod a strategaethau ar gyfer addasu o'r organebau hynafol a dirgel hyn. Bydd Simon hefyd yn rhannu rhai recordiadau maes cen diweddar; gwahoddiadau i wrando ar y byd trwy gen.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, mae archebu'n hanfodol. Mae angen i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Dysgwch fwy am waith Simon a Dod yn Gen yma

Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.