Cymraeg

Arddangosfa Serameg yn Oriel y Ffoyer

Arddangosfeydd | 1 Gorffennaf 2026 - 31 Hydref 2026

"O blith yr holl lestri, y gwpan yw'r un sydd â'r berthynas fwyaf personol a agosaf gennym ni. Rydym yn ei chodi i'n gwefusau, yn ei dal yn dyner yn ein dwylo, ac yn ei golchi. Bob dydd, sawl gwaith y dydd. Mae gennym ffefrynnau. Rydym yn bwrw golwg arnynt wrth iddynt sefyll ar y silffoedd. Rydym yn eu dewis neu'n eu gwrthod yn ôl ein hwyliau neu yn sgil rhyw duedd fewnol nad ydym yn ymwybodol iawn ohoni."

James Burnett-Stuart.

Mae James yn un o'r wyth crochenydd rydym yn eu harddangos yn Oriel y Ffoyer, ochr yn ochr ag Alanda Wilson, Tim Lake, Rebecca Eastland, Mike Parry, Tony Hall, Kim Sweet, Mary Stephens a Ruth Gibson.

manual override of the alt attribute