Cymraeg

Clwb Crefft

Gwella lles a chysylltu â natur

8 Mai 2025 - 1 Gorffennaf 2025

Mae Oriel Davies Gallery wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Agor Y Drenewydd a Plant Life i gynnal cyfres o weithdai creadigol rhad ac am ddim Rhwng Mai a Gorffennaf ar gyfer pobl sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl. Mae'r prosiect hwn - Clwb Crefft - wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

manual override of the alt attribute

Bydd y saith gweithdy wythnosol (i’r rhai dros 18 oed) yn cael eu harwain gan y gwneuthurwr basgedi Jeanette Gray a’r gweithiwr greenwood Gareth Fysh-Foshkett

Mae Jeanette a Gareth wedi gweithio gydag Oriel Davies Gallery yn flaenorol ac yn brofiadol mewn cyflwyno sgiliau crefft traddodiadol a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar sy’n ddiogel yn gorfforol ac yn seicolegol i bawb sy’n cymryd rhan.

Cynhelir y sesiynau yn y mannau gwyrdd ger yr oriel pan fyddant yn sych (os yn wlyb, yn yr oriel gelf ei hun). Nid oes angen unrhyw sgiliau blaenorol – uchelgais Clwb Crefft yw annog trafodaeth, cysylltiadau a chyd-gefnogaeth ymhlith cyfranogwyr i helpu i leddfu pryder, datblygu ymwybyddiaeth ofalgar a mwynhau’r broses greadigol. Darperir lluniaeth a chinio.

I archebu cysylltwch â Kate ar 01686 625041 kate@orieldavies.org

Clwb Crefft
Logos