Drwy gydol y dydd bydd Daniel yn perfformio ymatebion byrfyfyr a repertoire sefydledig.
Astudiodd Daniel, y cerddor o Gymru, y sielo yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall. Roedd hefyd yn ysgolhaig i Ysgol Gerdd Haf Iâl ac yn Artist Ifanc Britten Pears. Cafodd hefyd arweiniad a gwersi gan y Sielydd Janos Starker ac astudiodd yn helaeth gyda Nicola Thomas.
Mae Daniel yn sielydd medrus ac ar hyn o bryd mae’n rhannu ei amser rhwng bod yn Gyfarwyddwr Artistig Cerdd Nantwen, ei deulu a pherfformiad.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau