Cymraeg

Tynnu Lluniau yn y Gwyllt

Cwrs ar-lein gyda Chris Wallbank

Gweithdai a Chyrsiau | 2 Mawrth 2021 - 23 Mawrth 2021

Ymunwch â Chris Wallbank ar gyfer y cwrs ar-lein hwn sy’n defnyddio ffilm, ac sy’n cynnwys darnau o ffilmiau bywyd gwyllt y tiwtor ei hun, i'n cludo i'r byd mawr y tu allan.

manual override of the alt attribute

Cwrs pedwar wythnos ar-lein gyda Chris Wallbank

Dyddiadau –dydd Mawrth 2+9+16+23 Mawrth

Amser - 10am – 12.30

Mae tynnu lluniau yn gallu bod yn ffordd o gysylltu'n fwy agos â'r byd naturiol, hyd yn oed pan edrychir ar natur o bell drwy gyfryngau digidol. Heb adael cartref, bydd cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i'r heriau o dynnu lluniau natur yn y maes, a datblygu strategaethau ar gyfer cipio ymdeimlad o'r testun bywyd gwyllt yn ei gynefin. Bydd tynnu lluniau yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i'r mannau rydym yn byw ynddynt hefyd, wrth i ni geisio ehangu ein canfyddiad o'r tirweddau mwyaf cyfarwydd hynny a gweld rhyfeddod newydd yn y natur a geir ar garreg ein drws ein hunain, y tu allan i'n ffenestri ac o amgylch ein cartrefi. Gydag enghreifftiau amrywiol o artistiaid er cyfeiriaeth, byddwn yn datblygu ysbrydoliaeth ar gyfer ein cyfansoddiadau ein hunain yn defnyddio ystod o wahanol gyfryngau tynnu lluniau. Bob wythnos, byddwn yn tynnu lluniau yn seiliedig ar un o'r themâu hyn; tynnu lluniau o ffilm, o fywyd, o gelf ac o ddychymyg. Yn anad dim, bydd pob sesiwn yn anelu at gyflwyno profiad newydd o ymgysylltu â'r gwyllt y gellir ei gyflawni o gartref, a bydd hyn yn paratoi’r cyfranogwyr drwy amrywiaeth o ddulliau o dynnu lluniau ym myd natur y gellir eu datblygu yn eu hamser eu hunain hefyd; efallai ochr yn ochr ag ymarfer celf sy'n bodoli eisoes, neu fel math o ymarfer hamdden, myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar yn unig.

Y tiwtor

Mae Chris Wallbank yn baentiwr, tynnwr lluniau a gwneuthurwr printiau. Mae ei waith yn archwilio gofod darluniadol a phrofiad o dirwedd, yn fwy aml na pheidio mewn amgylcheddau gwyllt lle mae'n teimlo fwyaf cartrefol yn gweithio mewn ymateb i elfennau newidiol a rhythm natur. Mae ei ddiddordeb yn y rôl y gall celfyddyd weledol ei chwarae wrth gyflwyno themâu ecoleg mewn golau newydd wedi ei arwain i gydweithio â nifer o brosiectau cadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o fonitro nythfeydd gwylogod bridio ar Ynys Sgomer dros y tymor hir, i gadw barcutiaid du trefol ar draws metropolis Delhi Newydd. Oherwydd yr ymrwymiad hwn i gelf ac ecoleg, dyfarnwyd gwobr 2020 Birdscape Galleries’ Conservation i Chris. Yn 2019, dyfarnwyd Gwobr Cymru a'r Wobr Dewis Ymwelwyr yn Wales Contemporary iddo am ei luniau o nythfeydd gwylogod. Mae Chris wedi bod yn aelod proffesiynol etholedig Society of Wildlife Artist’s (SWLA)) ers 2015.

Mae profiad tiwtora Chris yn deillio o'i hyfforddiant a'i ymrwymiad fel aelod o gyfadran yn y Royal Drawing School, lle mae'n dysgu ar y rhaglen ArtistIaid Ifanc. Mae wedi datblygu ystod eang o gyrsiau tynnu lluniau gyda'r ysgol ac ar safleoedd ar draws Llundain gan gynnwys; Oriel Whitechapel, Yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa'r Ardd, Palas Buckingham, yr Oriel Genedlaethol ac yn fwyaf diweddar, ar-lein. Mae Chris wedi dysgu yn y Sefydliad Celf Gain Rhyngwladol, Delhi Newydd hefyd, ac ar y cwrs Crefft Adeiladu ar gyfer Sefydliad y Tywysog, yn ogystal â nifer o weithdai sy'n arbenigo mewn tynnu lluniau o natur yn y maes, o wyddau gwyllt ar Fôr Wadden, Denmarc, i fywyd gwyllt neotrofannol yn yr Amazon ym Mheriw.

Mae gwaith Chris yn cael ei gadw mewn casgliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ac wedi cael ei arddangos yn eang, er enghraifft yng Nghasgliad Wellcome, Christie's London, Cystadleuaeth Dyfrlliw'r Sunday Times a Gwobr Lynn Painter-Stainers. Mae ei arddangosfeydd unigol yn cynnwys Oriel Cheng-Kim Loke yn WWT Slimbridge, RSPB Ynys-hir a gosodiad tynnu lluniau a gafodd ei arddangos yn Eglwys Gadeiriol Sheffield ar gyfer Gŵyl Festival of the Mind. Mae cleientiaid darlunio yn y gorffennol wedi cynnwys Bloomsbury Publishing, teledu S4C, Strata Florida Heritage Landscape Project, Journal of Landscape Architecture a British Birds.

Mae'r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr, ac mae'n rhad ac am ddim i'w fynychu, ond rydym yn awgrymu eich bod yn rhoi rhodd wirfoddol i gefnogi gwaith parhaus Oriel Davies mewn cyflwyno gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau. Ein nod yw darparu cyfleoedd i bawb mewn cymdeithas sicrhau nad oes neb yn colli allan ar iechyd, llesiant a manteision addysgol creadigrwydd.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau