Mwynhewch fore o arlunio yn yr oriel, wedi’i ysbrydoli gan waith Shani Rhys James a Stephen West. Mae Shani a Stephen yn dangos llawer o weithiau trawiadol ar raddfa fawr sy’n adrodd straeon am fywyd cartref, profiadau plentyndod, gofodau dychmygol a lleoedd cyfarwydd. Mae'r gwaith yn gyffrous, yn hygyrch ac yn ddeinamig.
Ymunwch â’r artist a’r addysgwr Tomos Sparnon am weithdy chwareus yn archwilio’r gwaith, creu darluniau cydweithredol ar raddfa fawr a gwaith i fynd adref gyda chi hefyd. Mae Tomos yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae’r gweithdy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg.
Stephen West
Cynhelir y gweithdy yn yr oriel, wedi'i amgylchynu gan waith Stephen a Shani. Yn rhad ac am ddim mae'r gweithdy yn addas ar gyfer oedolion a phlant.
Plant i fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Shani Rhys James
Am Tomos
Tua dwi'n 25 oed ac yn dod o Gastell Nedd, Cymru. Graddiais gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf Abertawe yn 2018.
"Mae fy arfer yn archwiliad o beth yw bod yn ddynol. Trwy wahanol gyfryngau gan gynnwys paentio, darlunio a cherflunio. Fy nod yw dal y gwrthdaro rhwng y gweladwy a'r anweledig, rhwng realiti a'r hyn nad yw'n real.
Rwy'n un o gyfarwyddwyr GS Artists (Galerie Simpson gynt), Abertawe. Dwi hefyd yn aelod o Banel Celf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Rhwng Medi 2018 a Gorffennaf 2019, bûm yn gweithio fel Artist Preswyl cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe."
Mae Tomos yn cydbwyso ei ymarfer celf gyda gwaith mewn ysgol gynradd yn rhoi cefnogaeth un i un i blant.
Hygyrchedd
Mae Oriel Davies wedi ymrwymo i gefnogi anghenion mynediad ein holl ymwelwyr. Cysylltwch â ni yn desk@orieldavies.org i gael gwybod mwy am y trefniadau ar gyfer y gweithdy a thrafodwch gyda'r staff beth yw'r ffordd orau i ni gefnogi eich profiad.
caffi DAVIES caffi newydd ei agor, yn cael ei redeg gan Saren Bach Bistro, lle bwyta llysieuol a fegan, yn cynnig prydau cinio wedi'u paratoi gyda chynhwysion da, cariad a sylw. Lle perffaith i fwynhau cinio blasus ar ôl y gweithdy, archebu ymlaen llaw ar gael. bwydlen caffi DAVIES a rhif ffôn uniongyrchol ar gyfer archebu ymlaen llaw
Gwerthu Allan
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau