Mae prosiect darlunio adroddiad yr artist Ellen Bell, Gwylio’r Gwylwr, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn. Gan ddechrau yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ddydd Mawrth 20fed Medi a’r diwrnod wedyn, dydd Mercher 21 Medi, yn Oriel Davies, Y Drenewydd, bydd Bell yn gweithio yn yr orielau yn gwneud darluniau byw o ymwelwyr sy’n ymgysylltu â’r arddangosfeydd. Prosiect blwyddyn o hyd am berfformio’n agored a rhannu ymarfer artistig, bydd Bell yn gweithio ym mhob oriel unwaith y mis. Bydd ei lluniau yn cael eu postio ar Instagram.
Mae Ellen Bell yn artist ac yn awdur sydd wedi gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau ond y mae ei hymarfer presennol yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar luniadu gohebu byw. Mae Bell yn byw yng nghanolbarth Cymru.