Ymddangos: Billy Maxwell Taylor & Marla King
Croeso Cynnes
Mae Emerge/Ymddangos yn archwiliad dawns a seinwedd o gwestiynau cymdeithasol-ecolegol. Sut gallwn ni lywio ein hunain o dan y tir er mwyn dod allan i egin gwyrdd gobaith?
Bydd Marla a Billy yn archwilio gofodau oriel Davies trwy recordiadau maes Cymraeg, troslais, cerddoriaeth amgylchynol a dawns weadol. Byddant yn gosod cwestiynau ym mhob rhan o'r gofod ac yn meithrin gofod lle y gall cyfranogwyr arafu a theithio i'w cwestiynau eu hunain.
Maent hefyd yn gwahodd cyfranogwyr i ymarfer Dawn and Dusk, gan gynnig gofod ysgafn o lonyddwch yn y prysurdeb i ddechrau neu ddiwedd eich diwrnod. Bydd hyn yn cynnwys symudiad ymlaciol ac yna te am ddim a lle i sgwrsio (neu fod yn dawel).
Mae Billy Maxwell Taylor yn goreograffydd rhyngddisgyblaethol, yn artist seinwedd ac yn arweinydd artistig The Motion Pack. Mae ei ymarfer yn cynnig lle i lonyddwch yn y prysurdeb, gan roi amser yn aml i fyfyrio ar themâu cymdeithasol-ecolegol. Mae wedi gweithio yn y gorffennol gyda Span Arts, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Richard Chappell Dance, Volcano Theatre a llawer o sefydliadau celfyddydol eraill ledled Cymru, y DU ac Ewrop.
Artist dawns Cymreig ac eiriolwr dros gyfiawnder hinsawdd yw Marla King. Cyd-sefydlodd grŵp Glanio yn 2021. Trwy gomisiynau creadigol a phrosiectau cydweithredol, mae Marla yn parhau i archwilio’r rôl y gall y celfyddydau, symudiad ac ymgorfforiad ei chwarae wrth gryfhau cysylltiad a dealltwriaeth ecolegol. Mae hi wedi gweithio o’r blaen gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Jack Philp Dance, Richard Chappell Dance, Cwmni Rhiannon Faith, Elisabeth Schilling, Sweetshop Revolution, Rendez-Vous Dance, Jones the Dance a mwy.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.