Cymraeg

GWEITHDY ADDURNO ARDDULL GWYL

Gweithdy hanner tymor i bobl ifanc

Digwyddiadau | 1 Mehefin 2022 - 1 Mehefin 2022

DYDD MERCHER MEHEFIN 1af 10.30yb - 3yp

manual override of the alt attribute

Rydym yn chwilio am dîm o artistiaid ifanc, crefftwyr a phobl greadigol i greu addurniad arddull gŵyl ar gyfer digwyddiad cerddorol sydd i ddod ym mis Gorffennaf gyda’r Rinky Dink Sound System chwedlonol a’r Pedal Emporium.


Yn y gweithdy hwn byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda gwneuthurwr addurniadau proffesiynol Héloïse MacIntyre-Read i gynllunio, dylunio a gwneud addurniadau o ddeunyddiau wedi'u huwchgylchu. Fel rhan o'r tîm addurno byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddod i wisgo'r digwyddiad ddydd Sul 2 Gorffennaf

Mae'r gweithdy am ddim, archebwch o flaen llaw gan fod lleoedd yn gyfyngedig

Addas ar gyfer 11-18 oed

Dewch â phecyn bwyd gyda chi.

AM Y FFAIR HAF

Yn y Ffair Haf ar 2 Gorffennaf, gyda’r Rinky Dink Sound System a Pedal Emporium, bydd cerddoriaeth gyda DJs lleol o Creative Stuff Y Drenewydd, gorymdaith arddull gŵyl, gweithdai cerdd, dawns, stondinau crefft a gweithdai a stondinau bwyd.

Ffocws y digwyddiad yw hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o fyw a rhoi llais i bobl ifanc. Mae’n Ddigwyddiad Agored a drefnir gan Open Newtown, One Planet Generation, Oriel Davies a Creative Stuff Y Drenewydd ac a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig

Delweddau trwy garedigrwydd Héloïse MacIntyre-Read

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
Concession £0.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.