Gweithdai’r haf am ddim ar gyfer pobl ifanc 10 – 16 oed
Creu eich gweithiau celf eich hun
DYDD MERCHER 11, 18, 25 AWST. 11 – 1
Yr haf hwn, mae Oriel Davies yn arddangos campwaith sydd ar fenthyg o'r Oriel Genedlaethol, ochr yn ochr â gwaith newydd cyffrous gan artistiaid cyfoes o Gymru. Ymunwch â'n gweithdai haf i greu eich gweithiau celf eich hun wedi'u hysbrydoli gan waith yn yr oriel a'r mannau gwyrdd y tu allan.
Dydd Mercher 11 Awst 11 – 1
Lle I Bawb gyda Nicky Arscott Gan ddefnyddio ystod o dechnegau anarferol a deunyddiau celf, bydd cyfranogwyr yn gweithio gyda’i gilydd i greu 'dec' o bortreadau wedi’u hysbrydoli gan y syniadau y tu ôl i'r arddangosfa.
Dydd Mercher 18 Awst 11– 1
Gwneud Amser i Chwarae gyda Clara Lloyd Adeiladwch dref gyda'r Therapydd Chwarae a Chelfyddydau Creadigol Clara Lloyd, yn defnyddio deunyddiau ac adnoddau naturiol, a thrwy adrodd straeon a defnyddio’ch dychymyg. Bydd y profiad synhwyraidd hwn yn canolbwyntio ar archwilio ac adeiladu llythrennedd a lles emosiynol
Dydd Mercher 25 Awst 11 – 1
Tŷ Cardiau gyda Elin Crowley Bydd Elin yn cynnig gweithdy printiau mewn ymateb i waith Alan Smith, a bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i adeiladu delweddau trawiadol yn defnyddio siapiau a lliwiau amrywiol.
Gallwch gofrestru ar gyfer un, dau neu ar gyfer bob un o'r tri gweithdy. Mae llefydd yn brin, felly cofrestrwch ymlaen llaw. Bydd manylion llawn yn cael eu hanfon atoch unwaith y byddwch wedi cofrestru. Bydd y gweithdai'n cael eu rhedeg dan orchudd, y tu allan i'r oriel.
Am yr artistiaid
Bardd ac artist gweledol o Lanbrynmair yw Nicky Arscott. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan straeon o bob cwr o'r byd, ac mae hi wedi bod wrth ei bodd yn gweithio gydag awduron mewn gwahanol ieithoedd (gan gynnwys Cymraeg, Sbaeneg, Latfieg, Bakweri a Bengaleg) i greu naratifau graffig yn amrywio o ddarnau cynfas mawr wedi'u paentio i lawr i gomics DIY bach. Mae Nicky wedi arddangos gwaith yn Oriel Davies, MOMA Machynlleth a'r Academi Frenhinol. Mae hi’n rhedeg cwmni addysg y celfyddydau Ennyn CIC gydag Elin Crowley
Mae Elin Crowley yn artist o Fachynlleth sy'n arbenigo mewn gwneud printiau. Mae hi’n gyfarwyddwr Ennyn CIC, sef cwmni buddiannau cymunedol sy'n cynnig gweithgareddau creadigol mewn ysgolion a chymunedau. Mae Elin yn Wneuthurwr Printiau sydd wedi cael amryw o swyddi yn ystod ei gyrfa, gan gynnwys gweithio ar wefannau addysg ac ar-lein yn y BBC, bod yn rhan o dîm cynhyrchu teledu sy'n gweithio ar raglenni ffordd o fyw ar gyfer S4C, ac fel rhan o dîm creadigol yng Nghwmni Theatr Arad Goch. Mae adar, mynyddoedd, llynnoedd ac afonydd yn tanio ei dychymyg.
Mae Clara Lloyd yn Therapydd Chwarae a Chelfyddydau Creadigol o Fachynlleth. Ei hangerdd yw chwarae yn ei holl ffurfiau, ochr yn ochr â chefnogi cysylltiad a lles emosiynol i bobl mewn amrywiaeth o osodiadau, sy’n cynnwys ysgolion a chanolfannau plant yn ogystal ag yn yr amgylchedd naturiol. Fe gynrychiolydd Prydain unwaith yn y gamp o fowtio- gymnasteg ar gefn ceffyl!
Gwerthu Allan
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau