Sgwrs yn yr Oriel
Saskia van Uylenburgh in Arcadian Costume gan Rembrandt
Ymunwch Justine Rinnooy Kan, Dorset Curatorial Fellow (Paintings 1600-1800), The National Gallery i darganfod mwy o’r Campwaith
1-2yp 07/04/2022
![manual override of the alt attribute](/imager/images/37676/68C64585-BA4F-4BD2-A1F4-A6297C106A2F_2bb036ea5a5f3f37e93e27941423a1b2.jpeg 320w, /imager/images/37676/68C64585-BA4F-4BD2-A1F4-A6297C106A2F_fcc00a90258b5c8ae4cdf5d8f2dad5ee.jpeg 640w, /imager/images/37676/68C64585-BA4F-4BD2-A1F4-A6297C106A2F_bd0a9c291afe1219dcb2be1072ea640a.jpeg 960w)
NG4930
Rembrandt
Saskia van Uylenburgh in Arcadian Costume
1635
Oil on canvas
123.5 x 97.5 cm
© The National Gallery, London
Mae portread Rembrandt o’i wraig a’i awen Saskia wedi tanio amrywiaeth o ddehongliadau dros y blynyddoedd. Mae ei ffrog werdd lachar wedi'i haddurno â blodau, yn adlewyrchu poblogrwydd aruthrol paradwys chwedlonol Arcadia yng nghymdeithas Iseldireg yr 17eg ganrif. Mae hyn yn gwahodd y cwestiwn: a ydym yn edrych ar bortread cywir, neu a ddefnyddiodd Rembrandt Saskia fel model i greu delwedd o rywbeth arall? Ymunwch â Justine i archwilio’r paentiad o fewn cyd-destun byd Rembrandt, wrth i ni glosio i mewn ar ei yrfa, ei deulu, a’i ddyfeisgarwch eithriadol.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.