Cymraeg

Gini Wade

Print mewn Ffocws

Arddangosfeydd | 20 Mai 2022 - 15 Medi 2022

Detholiad o weithiau print gan Gini Wade.


manual override of the alt attribute

Bu Gini'n gweithio fel darlunydd ac awdur llyfrau plant am flynyddoedd lawer. Derbyniodd MA mewn Celfyddyd Gain, gyda chlod, o Brifysgol Aberystwyth yn 2010, lle bu’n arbenigo mewn lithograffeg.

Mae ei gwaith yn tynnu ar fythau, breuddwydion a byd natur, gyda thipyn o'r ochr dywyll. Mae hi'n DJ, ac mae dawns a dathliadau yn llywio llawer o'i delweddau.

Gwneuthurwr printiau yn bennaf, mae hi hefyd yn gwneud animeiddiadau, cerfluniau ceramig a phaentiadau, y mae'n eu harddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Ei hoff dechnegau argraffu yw lithograffeg a thoriad leino.

Mae wedi dysgu gwneud printiau yn Aberystwyth, Tsieina, Hong Kong a Guatemala, a bu’n diwtor lithograffeg yn Ymddiriedolaeth Sidney Nolan, Swydd Henffordd, rhwng 2010 a 2017 ac mae’n gyfarwyddwr Aberystwyth Printmakers. Symudodd o Lundain i Lanidloes yn 1971, ac mae wedi byw yno ers hynny.

Collectorplan white on red