Arlunio Bore Da - Mis Rhagfyr
Tobias a’r Angel
Golwg fanwl ar baentiad y Dadeni Tobias a'r Angel ar fenthyg o Oriel Genedlaethol Llundain.
Dyddiad Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2022
Amser 10.30am - 1pm
Cost £20
Mae lleoedd yn gyfyngedig, archebwch ymlaen llaw
Archwiliwch y paentiad syfrdanol o'r Dadeni Tobias a'r Angel (1470 - 80).
Mae’r gwaith, o stiwdio Andrea del Vorrocchio ar fenthyg o’r Oriel Genedlaethol yn Llundain rhwng 2 Rhagfyr 2022 a 5 Mawrth 2023 ynghyd ag ymatebion cyfoes gan Philip Eglin, Claire Curneen, Adam Buick, Cecile Johnson Soliz, Jacqui Poncelet, Beverley Bell Hughes , Christine Mills a Dewi Tannatt Lloyd.
Mae Oriel Davies yn gweithio mewn partneriaeth ag Oriel Genedlaethol Llundain fel rhan o’r Daith Campwaith, gan ddod â gweithiau o gasgliad yr Oriel Genedlaethol i gymunedau ledled y DU. Mae mynediad i’r arddangosfa hon am ddim, croesewir rhoddion tuag at barhau â’n gwaith yn y gymuned.
Yn y gweithdy hwn mae Lois yn eich gwahodd i wneud astudiaethau'n uniongyrchol o'r paentiad anhygoel hwn, ei gyfansoddiad, y technegau a ddefnyddiwyd, y palet a'r ystyron.
Byddwn yn cyfuno hyn gyda lluniad ffigwr o fodel wedi ei wisgo mewn gwisg , yn eistedd o fewn 'mis en scene' - lleoliad golygfa - gyda ffabrigau, dodrefn, gwrthrychau bob dydd a phlanhigion.
Mae'r gweithdai yn annog cyfranogwyr i gymryd gwyliau o'u steil, gan roi cynnig ar arddulliau newydd i ehangu eu hystod creadigol.
Darperir te a choffi a'r holl ddeunyddiau.
Tobias a'r Angel, 1470 - 80 gan weithdy Andrea Del Verrocchio. Tempera ar poplys. 83.6 x 66cm ©Yr Oriel Genedlaethol, Llundain
Am Lois
Hyfforddwyd Lois mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle. Mae lluniadu wrth galon ei gwaith. Yn 2009 ymddangosodd gwaith Lois yn Re:drawing yn Oriel Davies ac yn 2010 enillodd wobr ING Drawing yn Orielau Mall, Llundain. Mae ganddi MA mewn Dylunio Sgrin o’r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (RCA), ac mae’n cyfuno’r ddwy ddisgyblaeth hyn yn ei darluniau tirwedd ar raddfa fawr. Mae’n arddangos yn rheolaidd ac yn cynnal gweithdai yn y Canolbarth a’r gororau.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.