Caredig i'r Meddwl
Gweithdai prynhawn dydd Sadwrn i blant 8 - 12 oed
Dechrau dydd sadwrn 18fed Mehefin 1.30 - 3.30yp

Clwb celf prynhawn Sadwrn rheolaidd i blant ag angerdd am greadigrwydd. Gweithio gydag ystod o ddeunyddiau a syniadau i'w harchwilio, chwarae a chael hwyl gyda'ch gilydd.
Wedi’u hysbrydoli gan fyd natur, bydd y gweithdai hyn yn cysylltu pobl ifanc ac yn meithrin creadigrwydd. Eu nod yw cefnogi lles a thanio'r dychymyg.
Maent yn canolbwyntio ar ddiwylliant Cymreig ac yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog.
"Rwy'n hoff iawn o'r bobl sy'n mynd yma, maen nhw'n ddoniol iawn ac mae'r athrawon yn dda iawn".
Arweinir y gweithdai gan yr artistiaid Nicky ac Elin o'r sefydliad celfyddydol Ennyn. Mae Ennyn yn gweithio gyda chymunedau gyda Chanolbarth Cymru yn darparu gweithgareddau celfyddydol dwyieithog https://cy.ennyncymru.com

Mae'r oriel ar agor:
Dydd Mawrth i ddydd Sul 11-4 Mis Mawrth i Mis Hydref.
Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn 11-4 Mis Hydref i Mis Mawrth
(Ar agor Dydd Sul dros yr hâf)
Gwyliau banc ar gau
15.04.2022 – 18.04.2022
02.05.2022 – 02.05.2022
02.06.2022 – 03.06.2022
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.