Cymraeg

Caredig i'r Meddwl - Gweithdy Hanner Tymor

Gweithdy hanner tymor i blant 7 - 11 oed

3 Tachwedd 2023 - 3 Tachwedd 2023

Dydd Gwener 3ydd Tachwedd 11am - 1pm

manual override of the alt attribute

Mae Caredig i'r Meddwl yn cefnogi plant i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar, hyder ac ymdeimlad o le yn y byd trwy chwarae creadigol.

Mae hwn yn gyfle gwych i blant dreulio amser yn dod i adnabod ei gilydd a gweithio gydag artistiaid i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar trwy greadigrwydd.

Creu / Rhyddhau (Rhan 1) gyda Beth Clewes

Wedi’n hysbrydoli gan waith Carolina Caycedo (sy’n arddangos yma yn yr oriel fel rhan o Artes Mundi 10) byddwn yn nodi teimladau ac yn archwilio sut y gallwn eu rhyddhau trwy greadigrwydd, gan ganiatáu i bobl ifanc gymryd llawer o le yn y celf yr ydym yn ei greu. Mewn gweithdy 2 ran (mae'n bosibl mynychu un neu'r ddau), byddwn yn defnyddio deunyddiau naturiol yn bennaf, gan gynnwys siarcol, graffit, pridd, clai a ffibrau i greu gosodiad celf ar y cyd.

Mae Oriel Davies a’r sefydliad celfyddydol Ennyn yn cydweithio i ddatblygu rhaglen greadigol gynhwysol i blant sy’n annog chwarae, archwilio a hunan fynegiant.

Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yn y Canolbarth sy'n darparu rhaglen gelfyddyd gymunedol ddwyieithog.



Beth Clewes
Mae gan Beth BA anrh mewn Drama ac Ysgrifennu Creadigol ac mae ei gyrfa wedi troi o gwmpas hwyluso plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o ofodau, sydd dros y blynyddoedd wedi cynnwys gweithdai mewn barddoniaeth, dawns, drama, crefft. Fel hyfforddwraig awyr agored cymwysedig, mae Beth wedi darparu llawer o adeiladu tîm, gweithgareddau ac anturiaethau yn yr awyr agored (ar y tir ac ar y dŵr). Mae Beth yn angerddol iawn am fynd allan i fyd natur ac archwilio. Yn ddiweddar cwblhaodd brentisiaeth mewn Ffasiwn a Thecstilau a dysgodd sgiliau gwniadwraig sampl. Yn ei hamser rhydd, gallwch ddod o hyd iddi ar anturiaethau, ymhlith ffrindiau, neu greu rhywbeth gartref.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau