Cymraeg

Caredig i'r Meddwl - Clwb Celf Prynhawn Sadwrn

Ar gyfer plant 7 - 11 mlwydd oed

27 Ebrill 2024 - 25 Mai 2024

Yn cychwyn ar Ddydd Sadwrn 27fed o Ebrill - 25fed o Mai 1pm - 3.30pm tu fewn a tu allan yn yr Oriel Davies

manual override of the alt attribute

Archebwch bloc o bump gweithdai ar lein am £22.50 neu talwch £5 y gweithdŷ.

Mae Caredig i'r Meddwl yn cefnogi plant i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar,hyder ac ymdeimlad o le yn y byd trwy chwarae creadigol.

GWNEUD MYTHAU

Edrychwn ymlaen at ddechrau'r gyfres o sesiynau Caredig i'r Meddwl eleni, lle caiff plant eu hannog i chwarae ac arbrofi gyda syniadau,deunyddiau a thechnegau creadigol newydd. Byddwn yn ymchwilio i hen straeon a thraddodiadau tra'n dod â thro cyfoes i'r gyfres hon o weithdai a gynhelir gan artistiaid lleol.

Mae hwn yn gyfle gwych i blant dreulio amser yn dod i adnabod ei gilydd a gweithio gydag artistiaid i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar trwy greadigrwydd.


27 Ebrill - Liam Rickard - Comics Creadur: Ymunwch â Liam am weithdy comics a lluniadu wedi'i ysbrydoli gan stori'r 'afanc' sydd wedi'i gamddeall.


Mai 4ydd - Bethany Clewes - Cerflunio Creaduriaid - Byddwn yn treiddio i wlad hudolus Annwn, yn darganfod ac yn dod â'r creaduriaid chwilfrydig sy'n byw yno yn fyw.

Mai 11eg – Nicky Arscott – Gwisgoedd Chwedlonol: Gan ddefnyddio deunyddiau lleol a naturiol byddwn yn creu gwisgoedd a straeon wedi’u hysbrydoli gan draddodiadau gwerin gwahanol.

Mai 18fed - Nicky Arscott – Arlunio Bywyd Anifeiliaid: braslunio a gwneud cerfluniau clai, byddwn hefyd yn dysgu am rôl gwahanol anifeiliaid mewn straeon a chwedlau Cymreig.

Mai 25ain - Bethany Clewes - Creu Bydoedd Arall - gan ddefnyddio pethau fyddai fel arfer yn gwneud eu ffordd i mewn i'r ailgylchu, PVA a collage cylchgrawn byddwn yn creu gwlad gyfriniol Annwn.

Ennyn

Mae Oriel Davies a'r sefydliad celfyddydol Ennyn yn cydweithio i ddatblygu rhaglen greadigol gynhwysol i blant sy'n annog chwarae archwiliad a hunan fynegiant.

Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yn y Canolbarth sy'n darparu rhaglen gelfyddyd gymunedol ddwyieithog.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
Book all 5 workshops £22.50 PP*
April 27 – Liam Rickard £5.00 PP*
May 4th – Bethany Clewes £5.00 PP*
May 11th – Nicky Arscott £5.00 PP*
May 18th - Nicky Arscott £5.00 PP*
May 25th - Bethany Clewes £5.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.