Cymraeg

Caredig i'r Meddwl - Clwb Celf Prynhawn Sadwrn

Ar gyfer plant 7 - 11 oed

2 Tachwedd 2024 - 30 Tachwedd 2024

Dechrau dydd Sadwrn 2 Tachwedd - 30 Tachwedd. 1pm - 3.30pm tu fewn a thu allan yn Neuadd Gymunedol Treowen

manual override of the alt attribute

Archebwch floc o bum gweithdy ar-lein am £22.50 neu talwch £5 y gweithdy

Mae Caredig i'r meddwl yn cefnogi plant i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar, hyder ac ymdeimlad o le yn y byd trwy chwarae creadigol.

ADDASU A THRAWSNEWID

Gallai hyn gyfeirio at natur, y tymhorau, ein sefyllfa, sut rydym yn trin defnyddiau, a sut rydym yn newid ac addasu wrth i ni dyfu, gan addasu i leoliadau a sefyllfaoedd newydd.


2 Tachwedd - Elin Crowley - GWNEUD, ARGRAFFU, ADDASGU!

Yn y gweithdy hwn byddwn yn trawsnewid ac yn addasu pecynnau bwyd i greu printiau unigryw y gellir eu hargraffu mewn sawl ffordd. Gellir trin ac addasu pob plât i greu llawer o amrywiadau o un ddelwedd. Trawsnewidiwch lun i blat argraffu a fersiynau gwahanol o'r un ddelwedd, a mwynhau cael eich dwylo'n fudr!


9 Tachwedd - Liam Rickard - BREUDDWYDION IWTOPIA

Sut olwg fydd ar y Drenewydd mewn 5 mlynedd, 10 mlynedd, 50 mlynedd, neu 100 mlynedd? Trwy fraslunio, byddwn yn dychmygu sut y gallem addasu adeiladau a strydoedd y Drenewydd i ymateb i amhariad hinsawdd dyn. Sut gallai tref gynaliadwy edrych? Pa addasiadau allwn ni eu gwneud nawr i sicrhau’r dyfodol hwn?


16 Tachwedd - Nicky Arscott - DOETHINEB ANIFEILIAID

Yn y gweithdy hwn byddwn yn archwilio gwahanol anifeiliaid a'u nodweddion gan ddefnyddio cerddoriaeth, lluniadu a chlai. Beth allwn ni ei ddysgu am fod yn nerthol gan y creaduriaid lleiaf? Sut gall cŵn ein dysgu i ddod i gysylltiad â'n synhwyrau gwahanol? Dewch i gwrdd â gwesteion arbennig a chael eich ysbrydoli!


23 Tachwedd - Nicky Arscott - MASGIWCH!

Wedi’n hysbrydoli gan gelf gwerin o bedwar ban byd byddwn yn gwneud masgiau lliwgar a chreadigol.


30 Tachwedd - Elin Crowley - MAE RHYWBETH YN DOD O DDIM BYD

Sut mae mynd i'r afael â darn mawr gwag o bapur, ble rydyn ni'n dechrau? Gall dechrau rhywbeth newydd fod yn frawychus iawn, ond gall dysgu ei rannu’n gamau bach ein helpu i weithio tuag at rywbeth mwy. Cyfle i fod yn flêr gan ddefnyddio inciau, siarcol, paent a beth bynnag y gallwch chi gael gafael arno!

Ennyn

Mae Oriel Davies a’r sefydliad celfyddydol Ennyn yn cydweithio i ddatblygu rhaglen greadigol gynhwysol i blant sy’n annog chwarae, archwilio a hunan fynegiant.

Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yn y Canolbarth sy'n darparu rhaglen gelfyddydau gymunedol ddwyieithog.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
30 November - Elin Crowley - SOMETHING COMES FROM NOTHING £5.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.