Cymraeg

Llif: Cwrdd â'r Ymchwilwyr

Pe bai’r afon Hafren yn berson, sut fyddech chi'n dweud ei stori?

2 Mehefin 2023 - 2 Mehefin 2023

Dydd Gwener, 2il Mehefin - 10 yb i 12 yh.

Maer artist gweledol Gemma Green-Hope ar awdur a chynhyrchydd sain Sofie Isenberg yn bwriadu ateb y cwestiwn hwn wrth iddyn nhw gasglu deunydd i wneud arddangosfa gelf a ffilm wedii hanimeiddio am yr afon. Bydd y tîm yn siarad â geomorffolegwyr rhewlifol ac afonol er mwyn darganfod sut y daeth yr afon i fodolaeth gyntaf, a yw ei chwrs wedi newid dros amser a sut, a sut y mae wedi dylanwadu, a chael ei dylanwadu gan, y dirwedd oi chwmpas. Byddant yn casglu gwybodaeth am y fytholeg ar llên gwerin syn amgylchynur Hafren, ac am ei hanes o ymyrraeth ddynol (a'i ymyrraeth ym mywydau dynol). Byddant hefyd yn dogfennu'r ffordd y mae bywyd a marwolaeth yn datblygu o amgylch yr afon, gan gynnwys casglu hanesion llafar gan bobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae ar hyd yr Hafren.

Dewch i ddarganfod beth mae eu hymchwil wedi'i gynhyrchu hyd yn hyn ac ychwanegu eich straeon eich hun at fywgraffiad yr Hafren.


manual override of the alt attribute
Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau