Sesiynau Celf Ar-lein
Ar gyfer pobl ifanc 12 - 18 oed
Dydd Sadwrn 10.30 - 12.30
Mae'r gweithdai hyn ar gyfer pobl ifanc sy'n mwynhau creadigrwydd. Maent yn gyfle i gysylltu â phobl greadigol ifanc eraill yn anffurfiol, siarad am brosiectau a syniadau creadigol cyfredol, neu sgwrsio wrth greu.
Mae’r sesiynau ar Zoom ac yn cael eu rhedeg gan yr artist a gweithiwr ieuenctid Beth Clewes a Kate Morgan-Clare o Oriel Davies.
Dewch â rhywbeth rydych chi'n gweithio arno, neu ba bynnag ddeunyddiau celf sydd gennych wrth law a'u creu ochr yn ochr â bodau dynol eraill o'r un anian, gallai fod yn syml fel beiro a phapur.
AM DDIM - archebwch eich lle nawr.
Rydym am i bawb allu mwynhau Gweithdai Oriel Davies.
Rydym yn gweithio’n galed i wella hygyrchedd i bawb, gan ddatblygu rhaglen groesawgar gynhwysol ar gyfer y gynulleidfa ehangaf bosibl.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad arbennig, ffoniwch 01686 625041 neu e-bostiwch desk@orieldavies.org a byddwn yn hapus i'ch helpu.
Beth Clewes Mae gan Beth BA anrh mewn Drama ac Ysgrifennu Creadigol ac mae ei gyrfa wedi troi o gwmpas hwyluso plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o ofodau, sydd dros y blynyddoedd wedi cynnwys gweithdai mewn barddoniaeth, dawns, drama, crefft. Fel hyfforddwraig awyr agored cymwysedig, mae Beth wedi darparu llawer o adeiladu tîm, gweithgareddau ac anturiaethau yn yr awyr agored (ar y tir ac ar y dŵr). Mae Beth yn angerddol iawn am fynd allan i fyd natur ac archwilio.
Yn ddiweddar cwblhaodd brentisiaeth mewn Ffasiwn a Thecstilau a dysgodd sgiliau gwniadwraig sampl. Yn ei hamser rhydd, gallwch ddod o hyd iddi ar anturiaethau, ymhlith ffrindiau, neu greu rhywbeth gartref.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.