AWYR AGORED / DAN DO
Gwobr Celfyddydau DAC 2020
Roedd 2020 i fod wedi bod yn Blwyddyn yn Awyr Agored gan Croeso Cymru ac yna fe wnaeth pandemig byd-eang daro pawb a chloi pawb i lawr a daeth yn flwyddyn i ni fod dan do. Nid yw ynysu yn rhywbeth newydd i lawer o bobl anabl, ac am y tro cyntaf fe'n gorfodwyd ni i gyd i ynysu a chynnal pellter cymdeithasol. I lawer daeth yr unig ryngweithio dynol trwy alwad ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol, a dim ond rhithwir oedd ein profiad o'r mynyddoedd, y môr, afonydd a chefn gwlad. Dyma'r realiti bob dydd i lawer o bobl anabl.
Cliciwch yma i gael Canllaw Arddangosfa
"Fe gymerodd bandemig byd-eang lefelu'r cae chwarae"
Alan Whitfield o DAC
“Y penawdau yw: mae 77 y cant o gynulleidfaoedd anabl yn ystyried eu hunain yn agored i coronafirws tra mai dim ond 28 y cant o gynulleidfaoedd nad ydynt yn anabl sy'n gwneud. Mae hynny'n cyfleu blaenoriaethau a phryderon tra gwahanol rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. A gyda rheswm da. Gan fod pobl anabl yn cyfrif am dros draean o holl farwolaethau coronafirws y DU. Ystadegyn syfrdanol heb ei adrodd.”
Andrew Miller, Hyrwyddwr Anabledd cyntaf Llywodraeth y DU dros y Celfyddydau a Diwylliant
O alwad agored mae'r arddangosfa wedi'i churadu gan grŵp o feirniaid rhyngwladol a chynrychiolwyr orielau yng Nghymru.
"Mae'r ffordd rydyn ni'n trin y rhai ag anableddau yn adlewyrchu gwir hunan ddynoliaeth"
Fran Ledonio Flaherty, Pittsburgh
Gwerthu Allan
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org
Mae'r Oriel ar agor dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 11-4. Gallwch archebu ymlaen llaw. Cyswlltwch ni am wyboadaeth mwy.