Clwb Celf Prynhawn Sadwrn
Ar gyfer plant 7 - 11 oed
Yn dechrau dydd Sadwrn 3 Mai - 19 Gorffennaf, 1pm - 3.30pm y tu mewn a'r tu allan yn Oriel Davies
Archebwch floc o saith gweithdy ar-lein am £30, neu talwch £5 y gweithdy

Mae popeth yn newid, mae popeth yn aros yr un peth
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai dan arweiniad ymarferwyr lleol ac wedi’u hysbrydoli gan ffotograffau o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thu hwnt. Byddwn yn archwilio ein hanes, ieithoedd a thirweddau y tu mewn a thu allan i'r oriel trwy baentio, darlunio, collage, cerflunio, argraffu a mwy.
Mwy o wybodaeth i ddod yn fuan!
3ydd Mai - Nicky Arscott
17eg Mai - Elin Crowley
Mai 31ain - Bethany Clewes
7fed Mehefin - Nicola Talbot
Mehefin 21ain - Nicky Arscott
5ed Gorffennaf - Liam Rickard
19eg Gorffennaf - Elin Crowley


Mae Oriel Davies a’r sefydliad celfyddydol Ennyn yn cydweithio i ddatblygu rhaglen greadigol gynhwysol i blant sy’n annog chwarae, archwilio a hunan fynegiant.
Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yn y Canolbarth sy'n darparu rhaglen gelfyddyd gymunedol ddwyieithog.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.