Clwb Celf Prynhawn Sadwrn
Ar gyfer plant 6-10 oed
26 Medi 2026 - 5 Rhagfyr 2026
Yn dechrau dydd Sadwrn 26 Medi – 5 Rhagfyr, 1.30pm – 3.30pm, dan do ac yn yr awyr agored yn Oriel Davies
Archebwch gyfres o 5 gweithdy ar-lein am £20
Pyped y Dyn Llwyd: 26 Medi - Beth Clewes
Dewch i'r arddangosfa i weld y Dyn Llwyd. Crëwch gymeriad newydd ar ffurf pyped – bydd yn rhan ganolog o'ch straeon dychmygus eich hun, sydd eto i'w hadrodd.Dod â chelf yn fyw: 10 Hydref - Nicola Talbot
Creu straeon o frasluniau cyfunol
Cymeriadau ategol mewn cerfluniau clai: 24 Hydref - Nicola Talbot
Archwilio emosiynau o fewn y straeon
Braslunio, torri a gludo: 7 Tachwedd - Elin Crowley
Gall meddyliau bach droi'n syniadau MAWR!
Gweithdy hamddenol a hwyliog sy'n archwilio sut gall braslunio ein helpu i arafu, ymlacio a theimlo'n dda. Bydd cyfranogwyr yn arbrofi gyda phatrymau, siapiau, cymeriadau, lliwiau a marciau rhydd, gan ddarganfod sut gall brasluniau syml fod yn ffordd o fynegi meddyliau, teimladau a dychymyg.
Tirwedd pyped: 21 Tachwedd - Beth Clewes
Gyda'ch pyped wrth eich ochr, byddwch yn dychmygu byd i fynd ar antur ynddo gyda'ch gilydd. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, crëwch set ddychmygus i'ch pyped ei harchwilio. Cerddwch â'ch pyped drwy'r dirwedd a chipio'r profiad drwy fideo, ffotograffau a geiriau.
(os gwnaethoch chi fethu'r gweithdy cyntaf, peidiwch â phoeni! Bydd pypedau ar gael i'w defnyddio)
Argraffu crysau-T: 5 Rhagfyr gydag Elin Crowley
Byddwch yn greadigol a gwisgwch eich celf! Wedi'i ysbrydoli gan arddangosfa Huwco Jones yn Oriel Davies, mae'r gweithdy ymarferol a hwyliog hwn yn eich gwahodd i droi syniadau o'r arddangosfa yn ddyluniad crys-T unigryw eich hun.
Archebwch gyfres o 5 gweithdy ar-lein am £20
Mae hon yn gyfle gwych i blant dreulio amser yn dod i adnabod ei gilydd ac yn gweithio gydag artistiaid i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar drwy greadigrwydd.

Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol sydd wedi’i leoli yng Nghanolbarth Cymru ac sy’n cyflwyno rhaglen celfyddydau cymunedol ddwyieithog.

Tocynnau
Gwybodaeth am y Lleoliad
Gwybodaeth am Docynnau
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.
