Cymraeg

Clwb Celf Gwyliau'r Haf

Bob dydd Mercher ym mis Awst 10.30 - 12.30

Digwyddiadau | 2 Awst 2023 - 30 Awst 2023

GWEITHDAI CREADIGOL AM DDIM I BLANT 7 - 11 OED

manual override of the alt attribute

Rydyn ni i gyd yn Rhannu'r Un Awyr


Mae gweithgareddau gwyliau’r haf hwn yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn feithringar ac wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa gyfredol Rydyn ni i gyd yn Rhannu'r Un Awyr gan yr artist haniaethol Helen Booth

Mae ein gweithdai wythnosol unwaith eto yn cael eu cynhyrchu gan ein ffrindiau o Ennyn - y sefydliad celfyddydol o Ganolbarth Cymru sy'n darparu gweithgareddau creadigol dwyieithog ar gyfer y gymuned.

ARCHEBU AR GYFER UN NEU FWY O'R PUM GWEITHDY - ARCHWILIO BLOCK HEFYD AR GAEL

Dydd Mercher 2 Awst

Gweithdy braslunio gyda Elin Crowley - Byddwn yn edrych ar a thrafod yr arddangosfa gyfredol yn Oriel Davies gan Helen Booth. Byddwn yn sylwi ar y patrymau a'r lliwiau a chymeryd ysbrydoliaeth o'r technegau braslunio ailadroddus a ddefnyddiwyd. Darganfyddwch ddeunyddiau amrywiol braslunio a mwynhewch faeddu'ch dwylo!

Bydd brasluniau bach yn cael eu chwythu fyny i raddfa fawr gan greu campweithiau cyfrwng cymysg!

Cyflwynir y gweithdy hwn yn ddwyieithog.

Dydd Mercher 9 Awst

Defnyddio pridd fel paent gyda Beth Clewes - Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu celf gyda arddull yr artist Helen Booth, byddwn yn arbrofi gyda gwneud marciau ailadroddus gan ddefnyddio pridd fel paent.

Dydd Mercher 16 Awst

Potiau Coil Clai gyda Nicky Arscott - Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu ein potiau coil clai ein hunain i fynd adref gyda nhw, gan ddefnyddio technegau siapio a gwneud marciau syml wedi’u hysbrydoli gan haenau, siapiau a gweadau gwaith Helen Booth.

Dydd Mercher 23 Awst

Arbrofion Haniaethol gyda Nicky Arscott - Pa gelf anhygoel y gallwn ei gwneud pan fyddwn yn chwarae gyda darnau enfawr o gardfwrdd, golau a chysgod, cerddoriaeth, deunyddiau wedi'u hailgylchu a phaent chwistrell? Yn y gweithdy arbrofol hwn nid oes gennym unrhyw syniad beth fydd y canlyniad, ond rydym yn gwybod y bydd yn llawer o hwyl.

Dydd Mercher 30 Awst

Rydyn ni i gyd yn rhannu'r un awyr gyda Elin Crowley - Beth sydd gennym ni i gyd yn gyffredin? Wel, rydyn ni i gyd yn rhannu'r un awyr, a gall edrych i fyny'r awyr wneud i ni deimlo llawer o bethau gwahanol, yn fach, yn fawr, yn bwerus, yn ofnus. Gweithdy peintio mynegiannol yn seiliedig ar deitl arddangosfa Helen Booth

Cyflwynir y gweithdy hwn yn ddwyieithog.

Helen Booth

Hygyrchedd
Mae Oriel Davies yn adeilad cwbl hygyrch gyda thoiled hygyrch a pharcio i’r anabl. Mae ein gweithdai yn cefnogi ac yn croesawu plant o bob math o allu ac rydym yn hapus i siarad â rhieni/gofalwyr a phlant cyn y sesiynau i helpu i wneud y profiad mor gyfoethog a phleserus â phosibl. Cysylltwch â Kate - kate@orieldavies.org gydag unrhyw ymholiadau.

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau