Archebwch floc o 5 gweithdy - rhowch wybod i ni os na allwch ddod i sesiwn gan y gallwn sicrhau bod y lle ar gael.
Mae Kind to the Mind yn cefnogi plant i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar, hyder ac ymdeimlad o le yn y byd trwy chwarae creadigol.
Mae hwn yn gyfle gwych i blant dreulio amser yn dod i adnabod ei gilydd a gweithio gydag artistiaid i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar trwy greadigrwydd.
Dydd Iau 1 Awst 11am - 1pm - Liam Rickard, 'Ein Hafon: Gweithdy Zine'
Yn ystod y gweithdy hwn byddwn yn braslunio, profi, a thrafod iechyd ein hafon. Byddwn yn defnyddio deunyddiau gwahanol i wneud zines sy'n dangos yr hyn rydym wedi'i ddarganfod.
Dydd Iau 8 Awst 11am - 1pm - Beth Clewes, 'Coronau o Glan yr Afon'
Byddwn yn creu coronau cyn archwilio glan yr afon am drysorau naturiol i'w haddurno.
Dydd Iau 15 Awst 11am - 1pm - Nicky Arscott - 'Adar Cardfwrdd'
Ar ôl cynnal arolwg o’r adar sy’n byw yn yr afon ac o’i chwmpas, byddwn yn adeiladu adar 3D allan o gardfwrdd wedi’u hysbrydoli gan yr hyn a welsom.
Dydd Iau 22 Awst 11am - 1pm - Beth Clewes, 'Bywyd Gwyllt yr Afon'
Byddwn yn darganfod mwy o greaduriaid godidog yr afon ac yn dod â nhw'n fyw trwy’r cyfrwng o glai.
Dydd Iau 29 Awst 11am - 1pm - Nicky Arscott - 'Murlun o’r Afon'
Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harsylwadau o’r afon i greu murlun cydweithredol rhyfeddol o’r Afon Hafren.
Mae Oriel Davies a’r sefydliad celfyddydol Ennyn yn cydweithio i ddatblygu rhaglen greadigol gynhwysol i blant sy’n annog chwarae, archwilio a hunan fynegiant.
Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yn y Canolbarth sy'n darparu rhaglen gelfyddydau gymunedol ddwyieithog.
Gwerthu Allan
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau