Cymraeg

Haf o Hwyl - Gweithdai i blant dan 7 oed

Gweithdy galw heibio difyr i blant dan 7 oed

Gweithdai a Chyrsiau | 19 Gorffennaf 2021 - 27 Awst 2021

BOB DYDD GWENER MIS AWST 11:00 -12:30
AWYR AGORED YN ORIEL DAVIES

TOCYNNAU YMA

manual override of the alt attribute

Gweithdy galw heibio difyr i blant dan 7 oed yn Oriel Davies.

Ymunwch ag artist Jo Jo Vagabondi i gymryd rhan mewn gweithdai chwarae creadigol AM DDIM bob bore dydd Gwener ym mis Awst i'r teulu cyfan. Y tu allan yn Oriel Davies.

Drwy gymysgedd o ffurfiau fel stori, cân, gemau, pypedau a gweithgareddau creadigol, bydd cyfranogwyr yn archwilio'r gofod, y celfyddyd, a'i gilydd. Byddant yn adeiladu'r tyrau uchaf y gallant eu hadeiladu hefyd.

Gweithdai i’r teulu yw'r rhain – dylai bob plentyn fod yng nghwmni rhiant neu ofalwr.

Hefyd - fel rhan o'n harddangosfa bresennol Adeiladu Dyfodol - helpwch ni i adeiladu tŷ enfawr allan o gardiau gyda'n gweithgaredd creadigol am ddim.

Dydd Gwener 6, 13, 20, 27 Awst

11am – 12.30pm

Bydd y gweithdai'n cael eu rhedeg dan orchudd, y tu allan i'r oriel.

Am yr arlunydd

Jo Munton IMG 6097
Jo Munton IMG 0033

Mae Jo Jo Vagabondi (Jo Munton) yn bypedwr ac yn gerflunydd, sydd wedi gweithio gyda llawer o wahanol bobl mewn llawer o wahanol lefydd ar draws y byd. Mae Jo wedi’i chyfareddu gan sut y gall straeon hysbysu, egluro a'n hysbrydoli. Mae hi’n credu’n gryf ym mhŵer archwilio creadigol ar y cyd, ac yn arbenigo mewn gorymdeithiau adrodd straeon – pypedau enfawr yn adrodd straeon tal iawn. Roedd hi'n falch o fod yn rhan o'r tîm a greodd Ddathliad Goleuadau'r Drenewydd yn 2020, ac mae hi’n dal i obeithio cael Gorymdaith Cewri yn y Drenewydd pan fydd hyn yn bosibl.

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau