Cymraeg

Ffair Llyfrau Artistiaid Cymru

Yr unig ffair llyfrau artistiaid yng Nghymru

5 Medi 2026 - 6 Medi 2026

Cyhoeddi pedwerydd Ffair Flynyddol Llyfrau Artistiaid Cymru, sy'n cael ei chynnal eleni yn ei lleoliad newydd yn Oriel Davies yn y Drenewydd. Mae mynediad, arddangosiadau a gweithdai yn rhad ac am ddim.

Cynhelir y ffair dros benwythnos y 5ed a'r 6ed o Fedi, gan gyd-ddigwydd â Gŵyl Fwyd y Drenewydd.

manual override of the alt attribute

Cyhoeddi pedwerydd Ffair Llyfrau Artistiaid Cymru flynyddol; eleni cynhelir y digwyddiad yn ei leoliad newydd yn Oriel Davies yn y Drenewydd. Mae mynediad, arddangosiadau a gweithdai yn rhad ac am ddim.

Cynhelir y ffair dros benwythnos y 5ed a'r 6ed o Fedi, gan gyd-daro â Gŵyl Fwyd y Drenewydd. Mae mynediad i'r Ŵyl Fwyd – sydd wedi hen ennill ei phlwyf – yn rhad ac am ddim, a chynhelir hi yn y mannau gwyrdd ger yr oriel ac ar y Stryd Fawr. Gall ymwelwyr fwynhau'r ddau ddigwyddiad ar gyfer diwrnod unigryw allan yng Nghanolbarth Cymru.

Bob blwyddyn, mae'r ffair yn denu cannoedd o ymwelwyr – selogion celf a'r rhai sy'n newydd i'r math hwn o gelf, ac sy'n awyddus i gwrdd ag artistiaid mewn awyrgylch ysbrydoledig a chreadigol.

Tilly Weston Aelonwy

Eleni, cynhelir y Ffair yn Oriel Davies, lle gall ymwelwyr brofi marchnad grefftus gyda stondinau, arddangosiadau a gweithdai, yn ogystal â mwynhau arddangosfeydd, y caffi a siop yr oriel.

Beth yw llyfrau artistiaid?

Ffurfiau llyfrau a grëwyd gan artistiaid ac wedi'u hysbrydoli ganddynt – Gŵyl o lyfrau sydd wedi'u crefftio â llaw, gan ddefnyddio papur, ffabrig, cerflunwaith, argraffu, darlunio a gwnïo; llyfrau o wasgiau bach a llyfrau a grëwyd gan artistiaid.

Bydd Ffair Llyfrau Artistiaid yn canolbwyntio ar artistiaid unigol, grwpiau a chyhoeddwyr bach sy'n creu llyfrau artistiaid o ansawdd uchel gan ddefnyddio technegau argraffu, tecstilau neu bapur. Bydd llawer o waith i'w weld, yn ogystal â gwaith i'w brynu!


Heather Prescott

Beth sydd ymlaen

Eleni, bydd gweithdai 'galw heibio' gydag Erin Hughes: bore Sadwrn (11am–1pm) yn gwneud papur marmor, a bore Sul (11am–1pm) yn gwneud ffurfiau llyfrau theatr gydag artistiaid o Grŵp Llyfrau'r Marches.


Creu papur marmor gydag Erin Hughes

Artistiaid sy'n cymryd rhan

Amber White, Amy Sterly, Billie Ireland a Rob White, Erin Hughes, Ezma Zhao, Heather Prescott, Kate Spencer, Kelpie Press, Marches Book Art Group, Quince Press, Rock-Tree-Landscape, Tilly Weston, a Wits End Books.

Cysylltwch ag amysterly@gmail.com am ragor o wybodaeth.

Dilynwch @ffairllyfrcelf ar Instagram am newyddion a diweddariadau!


Billie Ireland

Mae Oriel Davies hefyd yn cynnig gweithdy rhwymo llyfrau (gydag elfen o gost) gyda'r artist Carole King (Nant Designs) ddydd Sadwrn 5ed Medi, rhwng 10am a 4.30pm. £65 Gostyngiad o 10% i aelodau ODG

@ffairllyfrcelf @orieldavies

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau



Digwyddiadau Cysylltiedig