Cymraeg

Warning Notes

Profiad Sonig Pwerus O Ymgolli Mewn Disgwyliad A Newidiol

Digwyddiadau | 29 Medi 2023 - 30 Medi 2023

Gan Mark Anderson, wedi'i greu ar y cyd a Liam Walsh

manual override of the alt attribute

“Mae cymaint o bethau a ddylai fod yn achosi braw: rhyfel, newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb, anghyfiawnder cymdeithasol, sefyllfaoedd personol ac yma mae’n cael llais, galwad clir, o sibrwd i ruo. Ar adegau, cymysgedd cyfnewidiol o egni a sain, ar adegau eraill mae’n dawelwch myfyriol y mae pob un ohonom yn chwilio amdano” - Mark Anderson

Warning Notes Trailer

Wrth i’r dydd droi’n nos, byddwch yn ymgolli mewn byd sain hudolus a pherfformiad byw yn yr awyr agored sy’n newid drwy’r amser.

Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ mecanyddol trawiadol – gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol – mae Warning Notes yn creu seinwedd gyfoethog a phwerus sy’n rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol presennol sy’n atseinio ledled ein byd.

Sioe newydd gan yr artist rhyngwladol, Mark Anderson, sy’n byrfyfyrio ac yn ymateb i’r gynulleidfa a’r amgylchedd. Mae Warning Notes yn chwareus ac yn hypnotig, gan ein gwahodd i wrando ar y presennol, ac i ystyried straeon personol a byd-eang – a’n dyfodol gyda’n gilydd

“Gwaith hudolus, hyfryd a bygythiol wedi’i wehyddu o gerfluniau sain a nodau rhythmig hardd” - Audience

“Mae’r dyfodol wedi dod yn annrhigiadwy. Gall anobaith o’r fath godi, mi gredaf, dim ond oherwydd anallu i wynebu’r presennol, i fyw yn y presennol, i fyw fel bod cyfrifol ymysg pobl eraill yn y byd sanctaidd hwn ar hyn o bryd, a dyna’r cyfan sydd gennym, a’r cyfan sydd ei angen arnom, i seilio ein gobaith arno.” - Ursula Le Guin

Warning Notes

GWYBODAETH AM WARNING NOTES

Mae Warning Notes yn gynhyrchiad awyr agored ar raddfa ganolig ar gyfer hyd at 500 o bobl fesul sioe sy’n digwydd dros 4 awr yn dechrau yn ystod y dydd ac yn parhau wedi iddi nosi, gyda modd i’r gynulleidfa fynd a dod yn ystod y cyfnod hwnnw, ac aros cyn hired ag y mynnant, ar safle maes glas neu arwyneb solet. Mae’n berfformiad gosodiad sain yn yr awyr agored sy’n gynaliadwy’n ecolegol, ac mae’n gweithio mewn amrywiaeth o fannau cyhoeddus – o dir comin, a pharciau i iardiau a thiroedd lleoliadau – yn ddelfrydol gydag amodau sain a golau amgylchynol isel.

Mae Warning Notes yn defnyddio ensemble o ‘offerynnau’ mecanyddol, cinetig wedi’u gosod mewn arena gylchol, gan gynnwys gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol sy’n creu cyfansoddiad unigryw sy’n newid drwy’r amser o sain angerddol, cyfoethog a dwys. Mae llawer o elfennau yn y sioe yn cyfeirio at bethau nad ydynt yn gelfyddyd, wedi’u hadeiladu â llaw, gan ddefnyddio elfennau cyfarwydd wedi’u hailgylchu a’u hailddefnyddio. Mae’n sioe sy’n rhannol yn osodiad ac yn rhannol yn berfformiad byw – yn fyrfyfyr ac yn ymatebol i’r gynulleidfa a’r amgylchedd.

Y GYNULLEIDFA

Wrth galon Warning Notes mae ein pryder cyffredin a chynyddol am y dyfodol, ar sawl lefel: personol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ecolegol. Mae’r sioe’n darparu lle diogel, chwareus a myfyriol i synhwyro, eistedd a thrafod hyn – lle i bawb – o blant i oedolion. Mae Warning Notes felly’n gweithio orau mewn mannau cyhoeddus cyfarwydd y gall cynulleidfa amrywiol gael mynediad atynt yn rhad ac am ddim. . access

Warning Notes 3

Mynediad i gadeiriau olwyn a seddi ar gael

Mae Warning Notes yn sioe awyr agored ar laswellt neu lawr caled. Mae wedi’i gosod mewn cylch gydag un lle sy’n fynedfa ac yn allanfa. Mae digon o le i gadeiriau olwyn symud o gwmpas. Bydd man gwylio penodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cael ei ddarparu os yw’r glaswellt/mwd yn rhy anodd i symud drwyddo. Bydd gwahanol fathau o seddi hefyd ar gael i’r rhai sy’n dymuno eistedd yn ystod y sioe. Gall person fod ar gael wrth fynedfa’r sioe i’ch cyfarch, gwrando arnoch a nodi’r hyn sydd ei angen arnoch, a’ch tywys o amgylch lleoliad y sioe os bydd angen.

Perfformiad Hamddenol

Mae perfformiad hamddenol ar gael i'r rhai sy’n dymuno profi’r sioe yng ngolau dydd, mewn ffordd dawelach, llai prysur, ac ar eich liwt eich hun. Rhaid archebu lle i weld y perfformiad hamddenol ymlaen llaw a bydd yn digwydd yn ystod hanner awr gyntaf y sioe ar y ddau ddiwrnod. Gall person fod ar gael wrth fynedfa’r sioe i’ch cyfarch, gwrando arnoch a nodi’r hyn sydd ei angen arnoch, a’ch tywys o amgylch lleoliad y sioe os bydd angen.

Taith gyffwrdd

Mae taith gyffwrdd ar gael i’r rhai sy’n rhannol neu’n llwyr ddall neu fyddar. Rhaid archebu teithiau ymlaen llaw a byddant yn digwydd yn ystod yr awr o olau dydd 45 munud cyn i'r sioe ddechrau ar y dydd Sadwrn. Bydd un o'r Artistiaid yn eich cyfarch wrth fynedfa’r sioe. Bydd wedyn yn mynd â chi ar daith fer o amgylch Warning Notes - profiadau synhwyraidd a straeon y sioe. Gallwch hefyd gyffwrdd a sefyll yn agosach at rai o ‘offerynnau’r sioe, gan dynnu rhai rhwystrau rhaff o’r neilltu i alluogi hyn.

Warning Notes 4

BYWGRAFFIAD MARK ANDERSON

Mae Mark Anderson yn artist sain gweledol a phyrotechnegydd, sy’n gweithio yn yr awyr agored bron yn gyfan gwbl. Mae’n creu gosodiadau a pherfformiadau safle-benodol dros dro gafaelgar, yn aml mewn cydweithrediad, gan dynnu ysbrydoliaeth o’r byd naturiol, diwydiannol a thechnolegol. Mae ei waith yn cynnwys sioeau teithiol rhyngwladol o fri, ‘Power Plant’ a ‘Furious Folly’. Mae’n un o Artistiaid Cyswllt Oxford Contemporary Music.

TÎM WARNING NOTES

Mae’r tîm cynhyrchu Warning Notes yn dîm medrus o arbenigwyr. Mae’n cael ei arwain gan yr artist blaenllaw Mark Anderson sydd wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Nghymru ac mae wedi gweithio’n rhyngwladol dros y 30 mlynedd diwethaf i greu perfformiadau aml- gyfrwng a safle-benodol. Ar Warning Notes mae Mark yn gweithio gyda’i gydweithiwr ers peth amser, Liam Walsh. Gyda’i gilydd, mae eu prosiectau blaenorol wedi cynnwys ‘Power Plant’, sioe sain a golau drochi sydd wedi gwerthu 100,000 o docynnau ledled y byd fel rhan o’r rhaglen o wyliau rhyngwladol blaenllaw, a ‘Furious Folly’ – sioe ar raddfa fawr am oferedd rhyfel. Byddant yn gweithio gyda Mathew Olden, a fydd yn creu meddalwedd pwrpasol ar gyfer y sioe, ac Ezra Gray, dylunydd sain, a fydd yn arwain yr elfen gweithdy.

“Yn weledol, roedd y gwaith yn hyfryd, ond roedd cerdded drwy’r seinlun sy’n esblygu’n barhaus, sydd byth yn ailadrodd, yn gyfareddol, yn esmwytho ar brydiau, yna’n ddwys, yna’n bywiogi, ac yna’n tawelu eto.”

“Roedd croesi’r trothwy i’r sioe yn eich trochi’n syth i ddimensiwn arall – realiti a gafodd ei greu yn yr iard syml gyda’r gors ac awyr y gwyll yn y pellter y taflu’r gynulleidfa i fyd hudolus, hyfryd a bygythiol wedi’i wehyddu allan o gerfluniau sain a nodau rhythmig hyfryd”.

“Wrth wrando ar Warning Notes, mae’n ymddangos ei fod yn adrodd stori glir iawn ar yr un pryd â rhoi rhyddid i’r dychymyg greu ei stori ei hun”

WARNING NOTES - Ymatebion y Gynulleidfa

Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
WARNING NOTES 5pm - 5.30pm £0.00 PP*
WARNING NOTES 5.30pm - 6pm £0.00 PP*
WARNING NOTES 6pm - 6.30pm £0.00 PP*
WARNING NOTES 6.30pm - 7pm £0.00 PP*
WARNING NOTES 7pm - 7.30pm £0.00 PP*
WARNING NOTES 7.30pm - 8pm £0.00 PP*
WARNING NOTES 8pm - 8.30pm £0.00 PP*
WARNING NOTES 8.30pm - 9pm £0.00 PP*
Sat - WARNING NOTES 5pm - 5.30pm £0.00 PP*
Fri - WARNING NOTES 5.30pm - 6pm £0.00 PP*
Sat - WARNING NOTES 6pm - 6.30pm £0.00 PP*
Sat - WARNING NOTES 6.30pm - 7pm £0.00 PP*
Sat - WARNING NOTES 7pm - 7.30pm £0.00 PP*
Sat - WARNING NOTES 7.30pm - 8pm £0.00 PP*
Sat - WARNING NOTES 8pm - 8.30pm £0.00 PP*
Sat - WARNING NOTES 8.30pm - 9pm £0.00 PP*
Thurs ALL NIGHT £0.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.