Gweithdai gwneud Ffansin yn Oriel Davies ar gyfer pobl ifanc 16 – 25 oed
Dewch i gwrdd â phobl ifanc eraill i wneud a chyhoeddi eich Ffansin, eich hun
DYDD IAU 12, 19, 26 AWST 2 - 4
Beth yw'r materion sy'n bwysig i chi? Sut ydych chi'n teimlo am yr amgylchedd lleol? Rhannwch eich syniadau a'ch llais, dysgwch sgiliau creadigol, a dewch i gwrdd â phobl newydd. Mae'r gweithdai'n anffurfiol, yn gyfeillgar ac AM DDIM, ac maen nhw’n cael eu rhedeg gan yr artist Ben Faircloth.
Dydd Iau 12 Awst 2 – 4pm
Dydd Iau 19 Awst 2 – 4pm
Dydd Iau 26 Awst 2 – 4pm
Bydd pobl ifanc yn gweithio gyda Ben Faircloth i ddefnyddio adnoddau’r oriel, yr amgylchedd lleol a thema’r arddangosfa bresennol 'Adeiladu Dyfodol' fel man cychwyn i greu a chyhoeddi e-gylchgrawn. Bydd cyfranogwyr yn archwilio eu gobeithion a'u hofnau ar gyfer y dyfodol, ac yn tynnu sylw at eu lleisiau a'u straeon eu hunain, a byddant yn arbrofi gydag ystod o dechnegau collage, printio, lluniadu a darlunio.
Gallwch gofrestru ar gyfer un, dau neu ar gyfer bob un o'r tri gweithdy. Mae llefydd yn brin, felly cofrestrwch ymlaen llaw.Bydd manylion llawn yn cael eu hanfon atoch unwaith y byddwch wedi cofrestru. Bydd y gweithdai'n cael eu rhedeg dan orchudd, y tu allan i'r oriel.
Delweddau gan Ben Faircloth
Am Ben Faircloth Mae'r artist, yr animeiddiwr a'r darlunydd Ben Faircloth yn byw ac yn gweithio o'i stiwdio/tŷ cyngor yng Nghanolbarth Cymru. Mae Ben yn gweithio’n bennaf trwy gyfrwng collage, cyfryngau cymysg ac animeiddiad stop-symudiad, ac mae'n cael ysbrydoliaeth gan gomics tanddaearol, celf o'r tu allan, sinema ‘trash’ a'r ocwlt. Dychwelodd Ben i fyd addysg yn 2010 fel myfyriwr aeddfed, ac enillodd radd dosbarth cyntaf mewn celfyddyd gain o Brifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd, mae'n astudio rhaglen Meistr Ysgol Gelf Aberystwyth. Mae Ben wedi arddangos yn helaeth yng Nghymru, ei wlad enedigol ac yn Sweden.