Ysgolion a Cholegau
Profwch gelfyddyd o safon fyd-eang, sy’n procio’r meddwl ac yn heriol gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol mewn amgylchedd sy’n groesawgar, yn ddifyr, yn llawn gwybodaeth ac yn rhad ac am ddim.
Rydym yn croesawu meithrinfeydd, ysgolion, colegau a phrifysgolion ar gyfer teithiau tywys, gweithgareddau hunan-gyfeiriedig, gweithdai dan arweiniad artistiaid a mynediad i adnoddau ar-lein.
Ymweliadau Rydym yn hapus i weithio gydag ysgolion i gysylltu cynnwys yr arddangosfa â'r cwricwlwm. Mae teithiau tywys ac ymweliadau hunan-gyfeiriedig yn cynnwys gweithgareddau ymarferol gyda deunyddiau a phrosesau. Gallwn weithio gyda grwpiau o hyd at 20 ar unrhyw un adeg. I archebu taith o amgylch ein harddangosfeydd gyda staff yr oriel ac i holi am drefnu gweithdy dan arweiniad artist, cwblhewch y ffurflen gais ymweliad grŵp. Gweithdai dan arweiniad artistiaid yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg a Saesneg.
Mynediad Siaradwch â ni am ofynion mynediad penodol a byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod ymweliadau'n bodloni anghenion mynediad disgyblion a myfyrwyr.
Rydym yn hapus i drefnu ymweliadau bore cyn i’r oriel agor i’r cyhoedd a gallwn leihau’r golau ar gais. Cysylltwch â desk@orieldavies.org 01686 625041