Cymraeg

Cynllun Aelodaeth

Ymunwch â ni a dod yn rhan o'r tîm - adeiladu dyfodol gyda'n gilydd

Digwyddiad Am Ddim i Aelodau Newydd

Croeso i Gynllun Aelodaeth newydd Oriel Davies

Mae'r oriel wedi ailagor ar ôl gwelliannau i'n seilwaith yn barod ar gyfer prosiect Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru.

Fel rhan o bartneriaeth CELF, ac fel cam nesaf i ni, rydym yn gobeithio dod â gweithiau o Gasgliadau'r Chwiorydd Davies yn ôl i'r Drenewydd i ganiatáu inni ddathlu'r cyfraniad unigryw a wnaeth dwy fenyw o ganolbarth Cymru i'r byd celf ac archwilio sut mae eu hetifeddiaeth yn parhau i ddylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol o artistiaid.

Tâl Aelodaeth £5 (Debyd Uniongyrchol Misol)

Mae manteision aelodaeth yn cynnwys:

Cefnogi ein cymuned drwy arddangosfeydd, gweithdai, prosiectau a digwyddiadau

10% oddi ar y caffi

10% oddi ar eitemau'r siop (hyd at £250)

Digwyddiadau aelodaeth arbennig

Teithiau/digwyddiadau am bris gostyngol

Teithiau arddangosfa i aelodau yn unig (pob arddangosfa)

Nos Wener yn Hwyr (mynediad am ddim)

Bwletinau Rheolaidd

Ymunwch â Ni

I ddod yn aelod cysylltwch â ni a rhowch eich enw, cyfeiriad, e-bost a chysylltiadau ffôn.

Helpwch ni i adeiladu ein dyfodol gyda'n gilydd

Cysylltwch â ni drwy:

Yn Bersonol: Yn yr oriel

e-bost: desk@orieldavies.org

Ffôn: 01686 625041

Post: Oriel Davies Gallery, Y Parc, Y Drenewydd, SY16 2NZ

You might also be interested in...