Cymraeg

#1: Cors Bodeilio

Sownd [ar safle]

6 Mehefin 2026 - 6 Mehefin 2026

Ynys Môn/Anglesey

06.06.26

Manon Awst + Dylan Huw, Anushiye Yarnell, Catrin Menai + Bob Evans, Becca Voelcker


manual override of the alt attribute

Mae Sownd [ar safle] yn gyfres o dri digwyddiad byw, safle-benodol ar gorsydd ledled Cymru – gwahoddiad i fynd yn sownd yn safleoedd gwlyb ac ansefydlog. Mae’n rhan o Sownd, prosiect ar gyfer y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia. Bydd y rhaglen yn digwydd ar gorsydd ar draws Cymru, wedi eu cydlynu gan yr artistiaid Manon Awst a Dylan Huw, gyda thîm curadurol Sownd ac artistiaid gwadd.

Mae Sownd [ar safle] yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru i suddo'n ddyfnach i themâu a deunyddiau Sownd. Sail yr arddangosfa yn Fenis a'r rhaglen safle-benodol hon yw ymchwil Manon Awst a Dylan Huw ar fawndiroedd: amgylcheddau gludiog ac ansefydlog, sy'n cuddio ac yn datgelu graddfeydd eang o hanes materol. Mae'r safleoedd hyn, sy’n gyfansawdd o fater organig a chof diwylliannol, yn dod yn ofodau ar gyfer llywio hanesion gwaddodedig iaith, diwylliant ac ecoleg. Mae partneriaeth ryng-ddisgyblaethol Manon a Dylan yn gwahodd cysylltiadau ar draws ffiniau, wedi'u saernïo gan waddol unigryw traddodiadau “byw” barddonol a safle-benodol yng Nghymru.

Lleoliad y digwyddiad cyntaf yw Cors Bodeilio, Ynys Môn, ar Sadwrn 6 Mehefin 2026 rhwng 2-4yh. Bydd yn cyflwyno tri ymateb byw newydd sbon at y safle a themâu’r prosiect, gan artistiaid Sownd, Manon Awst a Dylan Huw, y perfformiwr rhyng-ddisgyblaethol Anushiye Yarnell, a’r awdur-ymchwilydd Becca Voelcker.

Bydd bysiau am ddim yn cludo’r gynulleidfa o ganol Bangor a Pentraeth; gofynnwn i bawb ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i leihau straen ar y safle. Bydd y digwyddiad yn digwydd yn yr awyr agored, gyda hygyrchedd cyfyngedig. Gwiriwch y rhagolygon tywydd cyn y digwyddiad a gwisgwch ddillad addas. Gan nad oes gan Gors Bodeilio gyfleusterau toilet, bydd cyfle i ddefnyddio tŷ bach Neuadd Goffa Pentraeth. Cysylltwch â ____ os oes unrhyw gwestiynau.

Perfformiad o 2-4pm, Sadwrn / Saturday 6.6.26

Bydd cludiant yn cael ei ddarparu o Fangor a Phentraeth.

O Fangor - 1:15pm Pontio Arts and Innovation Centre Bus Stop

O Bentraeth - 1:45pm Pentraeth Memorial Hall

Cyfranwyr Sownd [ar safle] #1: Cors Bodeilio

Mae Anushiye Yarnell yn creu gwaith symud, sain, llais, testun a darlunio, yn ogystal a dulliau addysgiadol amgen. Yn ddiweddar, crëodd y ffilm-berfformiad Our Lady Blodeuwedd (2025) ac Array of Opposites (2023-), corpws o ymchwil gasglebol wedi’i arwain gan drywyddau’r corff canfyddiadol.

Mae Becca Voelcker yn sgwennwr a hanesydd diwylliant gweledol o Bant Glas, Gwynedd. Cafodd Land Cinema in an Age of Extraction – “cofnod arloesol o ddiwylliannau ffilm byd-eang sydd wedi eu gwreiddio mewn brwydrau tir,” yn ôl un ysgolhaig – ei gyhoeddi’n ddiweddar trwy University of California Press, gyda rhaglen sinema o’r un enw yn y Barbican. Mae hi’n ddarlithydd yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain.

Mae Manon Awst yn artist sy’n byw yng Nghaernarfon, sy’n gweithio mewn modd safle-benodol gyda cherflunwaith a pherfformio. Galluogodd Gymrodoriaeth Ymchwil gan sefydliad Henry Moore a Chymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol hi i ddatblygu ei hymchwil ar fawndiroedd. Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth y DG a Senedd Cymru.

Mae Dylan Huw yn sgwennwr ac artist sy’n cydweithio ar draws ieithoedd a disgyblaethau. Cafodd prosiectau diweddar eu cefnogi gan y Jerwood Foundation, Artes Mundi, LUX a Mostyn. Mae ei sgwennu beirniadol wedi ei gyhoeddi gyda Frieze, e-flux ac Art Monthly, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer yr International Award for Art Criticism ddwywaith.

SOWND LOGOS
Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
From Bangor - 1:15pm £0.00 PP*
from Pentraeth - 1:45pm £0.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.



Digwyddiadau Cysylltiedig