Cymraeg

Sownd [ar safle]

Manon Awst a Dylan Huw

6 Mehefin 2026 - 12 Medi 2026

Mae Sownd [ar safle] yn gyfres o dri digwyddiad byw safle-benodol yng Nghymru, sy’n rhan o Sownd, digwyddiad cyfochrog swyddogol y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia 2026. Bydd y rhaglen yn digwydd ar gorsydd ar draws Cymru, wedi eu cydlynu gan yr artistiaid Manon Awst a Dylan Huw, gyda thîm curadurol Sownd ac artistiaid gwadd.

manual override of the alt attribute

Dyma wahoddiad i fynd yn sownd ar safle gwlyb ac ansefydlog

Dyma ymdrochiad i mewn i fater amser; i isfyd garw, gludiog

Dyma strwythur, dyma lwybr,

i annog cysylltiad corfforol

â gwaddodion celfyddyd fyw Gymreig

Mae Sownd [ar safle] yn gyfres o dri digwyddiad byw safle-benodol yng Nghymru, sy’n rhan o Sownd, digwyddiad cyfochrog swyddogol y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia 2026. Bydd y rhaglen yn digwydd ar gorsydd ar draws Cymru, wedi eu cydlynu gan yr artistiaid Manon Awst a Dylan Huw, gyda thîm curadurol Sownd ac artistiaid gwadd.

6.6.26: Cors Bodeilio, Môn [Tocynnau am ddim ar gael arlein o 20.5.26]

11.7.26: Cors Caron, Ceredigion [Tocynnau am ddim ar gael arlein o 17.6.26]

12.9.26: Cors Crymlyn, Abertawe [Tocynnau am ddim ar gael arlein o 19.8.26]

Mae Sownd [ar safle] yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru i suddo'n ddyfnach i themâu a deunyddiau Sownd. Sail yr arddangosfa yn Fenis a'r rhaglen safle-benodol hon yw ymchwil Manon Awst a Dylan Huw ar fawndiroedd: amgylcheddau gludiog ac ansefydlog, sy'n cuddio ac yn datgelu graddfeydd eang o hanes materol. Mae'r safleoedd hyn, sy’n gyfansawdd o fater organig a chof diwylliannol, yn dod yn ofodau ar gyfer llywio hanesion gwaddodedig iaith, diwylliant ac ecoleg. Mae partneriaeth ryng-ddisgyblaethol Manon a Dylan yn gwahodd cysylltiadau ar draws ffiniau, wedi'u saernïo gan waddol unigryw traddodiadau “byw” barddonol a safle-benodol yng Nghymru.

Bydd pob digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad perfformiadol gan Manon Awst a Dylan Huw yn ogystal â chomisiynau byw newydd yn ymateb i’r safle gan artistiaid blaenllaw o Gymru.

Comisiynir Cymru yn Fenis gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig. Cefnogir Sownd [ar safle] / Sownd [on site] ymhellach gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac Art Fund.

Mwy o wybodaeth ynglŷn â Sownd fan hyn


SOWND

Comisiynir Cymru yn Fenis gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig. Cefnogir Sownd [ar safle] / Sownd [on site] ymhellach gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Art Fund a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Sownd wedi’i churadu gan Steffan Jones-Hughes ac mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Oriel Davies ac Oriel Myrddin.

logos
Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau



Digwyddiadau Cysylltiedig