Sownd - Cymru yn Fenis / Wales in Venice
Manon Awst a Dylan Huw
9 Mai 2026 – 22 Tachwedd 2026
10.00 – 18.00hrs.
Ar gau Ddydd Llun
Ar gyfer yr 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia, mae Manon Awst a Dylan Huw yn cynrychioli Cymru yn Fenis gyda'r prosiect cydweithredol Sownd, a gefnogir gan y sefydliadau arweiniol Oriel Davies ac Oriel Myrddin.





Credyd llun Dewi Tannatt Lloyd
Cyflwynir arddangosfa Cymru yn Fenis yn Istituto Santa Maria della Pietà, o fewn pellter cerdded hygyrch i brif safleoedd y Biennale yn y Giardini a'r Arsenale.
Bydd tri digwyddiad safle-benodol yng Nghymru yn cael eu cynnal ochr yn ochr â phresenoldeb Cymru fel digwyddiad cyfochrog yn y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia (rhagor o wybodaeth yma)
Mae Sownd yn cyfuno mater organig a daearegol o ogledd Cymru a Lagŵn Fenis gyda geiriau, synau a cherfluniau sy'n ymateb i bensaernïaeth unigryw y lleoliad. Mae'r teitl Sownd – sy'n golygu "sownd/stwc" a hefyd "cadarn yn strwythurol" – yn adlewyrchu ymchwil cydweithredol yr artistiaid ar diroedd ansefydlog peatdiroedd Cymru ac ecolegau bregus lagŵn Fenis. Mae'r safleoedd hyn yn sail i archwiliad cyffyrddadwy o haneision haenog a bregus diwylliannau iaith leiafrifol.
Mae eu cydweithrediad yn gwahodd cysylltiadau ar draws ffiniau, gan atseinio gydag ieithoedd a chymunedau lleiafrifol eraill. Wedi'i lywio gan hanes nodedig Cymru o arfer cydweithredol safle -penodol a thraddodiad barddol, mae Sownd yn cynnig pensaernïaeth o ymgordeddu — lle mae edafedd materol, ieithyddol ac ecolegol yn cydgyfeirio i symud y tu hwnt i gyfyngiadau'r presennol.
Prif ddyfais gerfluniol yr arddangosfa yw llwybr pren sy'n arwain ymwelwyr drwy dair ystafell yr osodiad, a gynlluniwyd gyda stiwdio bensaernïaeth PegwA, sydd wedi'i lleoli yng Nghaernarfon. Mae'n adleisio'r llwybrau a geir ar dir gwlyb a chorsiog, a phasserelle Fenis – y llwybrau dros dro a osodir pan fo'r ddinas yn wynebu llifogydd. Mae'r llwybr pren yn cyrraedd ei benllanw mewn gosodiad sain gofodol, a grëwyd mewn cydweithrediad â Freya Dooley a Catrin Menai, sy'n troi o amgylch cerdd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg gan Dafydd ap Gwilym. Mae cydweithredwyr eraill ar yr osodiad yn cynnwys y stiwdio bio-ddylunio Tŷ Syml a We Are Here Venice, casgliad ymchwil a llwyfan actifyddol sy'n ymroddedig i gadwraeth Fenis fel dinas fyw.
Comisiynir Cymru yn Fenis gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig. Cefnogir Sownd [ar safle] / Sownd [on site] ymhellach gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac Art Fund.
Bios Tîm
Mae Dylan Huw yn sgwennwr ac artist sy’n cydweithio ar draws ieithoedd a disgyblaethau. Cafodd prosiectau diweddar eu cefnogi gan y Jerwood Foundation, Artes Mundi, LUX a Mostyn. Mae ei sgwennu beirniadol wedi ei gyhoeddi gyda Frieze, e-flux ac Art Monthly, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer yr International Award for Art Criticism ddwywaith.
Mae Manon Awst yn artist sy’n byw yng Nghaernarfon, sy’n gweithio mewn modd safle-benodol gyda cherflunwaith a pherfformio. Galluogodd Gymrodoriaeth Ymchwil gan sefydliad Henry Moore a Chymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol hi i ddatblygu ei hymchwil ar fawndiroedd. Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth y DG a Senedd Cymru.
Mae Steffan Jones-Hughes yn Gyfarwyddwr Oriel Davies ac yn Guradur Sownd. Mae Oriel Davies yn oriel gelf gyhoeddus allweddol yng Nghymru, wedi'i lleoli yn Drenewydd, Powys, yng nghanol Cymru. Sefydlwyd yn 1982, mae'n cyflwyno celf trawiadol o'r radd flaenaf, gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol mewn amgylchedd sy'n groesawgar, yn ddeniadol, yn addysgiadol ac yn rhad ac am ddim.
Mae Catherine Spring yn Gynhyrchydd Creadigol Oriel Myrddin ac yn Gyfarwyddwr Arddangosfa ar gyfer Sownd. Canolfan celf weledol cyfoes, crefft a dylunio yw Oriel Myrddin, wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin, De-Orllewin Cymru. Ers 1991, mae wedi bod yn lle i gynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol ymgysylltu â syniadau cyfoes trwy raglen amrywiol o'r celfyddydau gweledol a chymhwysol.
Elliott Flanagan yw’r Gynorthwyydd Curadurol ar gyfer Cymru yn Fenis 2026. Mae'n darparu cymorth a chydgysylltiad curadurol ar gyfer datblygiad a chyflawniad Sownd, ac yn gweithio ar raglennu cenedlaethol yn ymwneud â Chymru yn Fenis mewn safleoedd ar draws y wlad. Cefnogir ei rôl gan ArtFund.
Lily T Wells yw’r Cydymaith Ymgysylltu ar gyfer Cymru yn Fenis 2026. Mae hi'n cefnogi Oriel Davies ac Oriel Myrddin a'r artistiaid yn datblygiad, cynhyrchiad a chyflawniad y rhaglen gyhoeddus gysylltiedig yng Nghymru. Cefnogir ei rôl llawrydd gan Ymddiriedolaeth Colwinston.

Sownd: Pensaernïaeth Daear Ansefydlog
Traethawd Guradurol ar gyfer Cymru yn Fenis 2026
Steffan Jones-Hughes
---
I. Dynesu at y Trothwy
Mae mynd i mewn i Sownd yn gam i fyd lle nad yw’r ddaear byth yn hollol solet. Mae’r llwybr bord pren sy’n cario ymwelwyr i’r gosodwaith yn adeiladwaith ymarferol ac yn ddyfais gysyniadol hefyd: yn ein hatgoffa ein bod yn symud dros dir sy’n shifftio, yn haenog ac yn fyw. Fel noda’r artistiaid, “Mae pob dim yn y gwaith yn gerfluniol – gan gynnwys iaith,” ac mae’r egwyddor hon yn siapio’r amgylchedd cyfan.
Nid arddangosfa o weithiau ar wahân yw Sownd ond ecoleg unigol, barhaus – gosodwaith byw sy’n crynhoi, gwaddodi, a thrawsffurfio dros amser.
Mae’r teitl ei hunan, gair Cymraeg sy’n golygu bod “ynghlwm” a hefyd “yn sylfaenol gadarn“ yn dal y paradocs wrth galon y project; y tyndra rhwng breuder a gwytnwch sy’n diffinio ieithoedd lleiafrifiedig, ecolegau bregus, a’r hanesion diwylliannol sydd wedi’u hymgorffori yn nhirwedd Cymru.
---
II. Mawndiroedd: Y Byd o dan y Byd
Daear gysyniadol Sownd yw mawndir Cymru – gludiog, ansefydlog a hynafol. Y corsydd hyn, nodai’r artistiaid, “sy’n celu a datgelu graddfeydd enfawr o hanes materol,” yn gweithredu fel archifau lle mae deunydd organig a chof diwylliannol yn crynhoi dros filenia.
Yn ei llyfr Peatland, mae Alys Fowler yn disgrifio corsydd fel systemau byw, perthynol: mannau lle mae dŵr, mwswgl, pridd, ac amser yn cydblethu mewn prosesau araf, cymhleth. Mae’n ysgrifennu ynglŷn â’r ymdeimlad o gerdded ar fawn – y meddalwch dan draed, ildiad cynnil y ddaear, y teimlad o gael eich dal gan rywbeth bregus ond sydd hefyd yn ddwfn. Mae’r profiad corfforedig hwn yn cyseinio coreograffi’r llwybr bordiau yn Sownd, sy’n tywys ymwelwyr ar draws ‘daear ansefydlog’ a’u gwneud yn ymwybodol iawn o’r deunydd islaw.
Mae cyfrol Carwyn Graves, Tir, yn cynnig persbectif cyflenwol, yn fframio tirwedd Cymru fel archif ddiwylliannol wedi’i siapio gan ganrifoedd o ymarfer dynol, cof ieithyddol, ac addasiad ecolegol. Mae Graves yn ein hatgoffa nad yw tirweddau’n gefnlenni goddefol ond yn gofnodion byw – mannau lle mae hanesion wedi’u dal yn y pridd, llystyfiant, ac enwi. Mae Sownd yn ymestyn y ddadl hon i gywair cerfluniol, yn trin mawn nid yn unig fel mater ecolegol ond fel trosiad ar gyfer haenau o waddod hanesion ieithoedd a hunaniaeth.
---
III. Pyrth, Arallfydoedd, a Rhesymeg y Cyflwr Trothwyol
Ers tro mae mawndiroedd wedi cael eu hystyried yn drothwyon. Yng nghosmoleg Gymreig yr Oesoedd Canol – adleisiwyd yn y Mabinogi – roedd corsydd a morfeydd yn byrth i Annwfn, yr arallfyd. Mae darn sain yr arddangosfa, sy’n ail-lunio’r gerdd Y Pwll Mawn o’r Oesoedd Canol, yn tynnu’n uniongyrchol ar y traddodiad hwn: bardd sy’n glaf o serch yn ddiymgeledd ar bwll mawn gyda’r nos, wedi’i ddal rhwng dau fyd. Daw’r gors yn safle o fregusrwydd a datguddiad, man lle mae’r ffiniau rhwng y byw a’r marw, y gorffennol a’r presennol, y gweladwy a’r anweladwy, yn ymdoddi.
Mae’r rhesymeg hon o realaethau cyfochrog yn canfod adlais cyfoes yn yr “Upside Down” yng nghyfres Stranger Things ar Netflix: ecoleg gysgodol o dan yr wyneb, wedi’i siapio gan bydredd, cof, a grymoedd anweledig. Fel yr Upside Down, mae mawndiroedd yn dal byd o dan y byd – man lle mae amser yn ymddwyn yn wahanol, lle caiff hanesion eu cadw a’u hystumio, lle mae’r ddaear ei hun yn troi’n borth. Mae Sownd yn gwahodd ymwelwyr i synhwyro’r deublygrwydd hwn, i symud rhwng haenau o realiti.
---
IV. Iaith fel Deunydd, Iaith fel Hudoliaeth
Os mai mawn yw archif faterol y tir, iaith yw ei gyfatebydd byw. Yn Sownd mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn atseinio drwy’r gosodwaith sain, nid fel cyfieithiadau ond fel presenoldebau cyfochrog. Mae’r ymdriniaeth hon o iaith yn cyseinio ag Earthsea gan Ursula K Le Guin, lle nid yw’r Old Speech – iaith gwir enwau – yn symbolaidd ond yn siapio byd. Mae enwi’n weithred o greu, cyfrifoldeb a chysylltiad. Yn Sownd, mae’r Gymraeg yn gweithredu yn yr un modd: nid fel crair diwylliannol ond fel grym cerfluniol wedi’i osod/blannu yn y tir ei hunan.
Mae methodoleg samplo’r arddangosfa – cywain dernynnau, haenu tymoroldebau, gwrthod diweddglo – yn ddrych o resymeg naratif y Mabinogi a’r newid ffurf chwedlonol ffigurau megis Gwydion a Rhiannon. Yma, nid yw iaith yn sefydlog ond yn hylifol, yn medru trawsffurfio, ailgyfansoddi, a goroesi.
---
V. Ymblethiad: Ecoleg Gwiar
Mae pwyslais yr arddangosfa ar ymblethiad yn cyseinio’n gadarn gydag ysgrifennu Tim Morton ynglŷn ag ecoleg gwiar, sy’n herio’r ffiniau sydd yn draddodiadol yn gwahanu natur o ddiwylliant, y gorffennol o’r presennol, a’r dynol o’r annynol. Mae Morton yn dadlau bod angen modd cwiar o gategorïau ar y meddwl ecolegol – derbyniad o’r perthnasau anniben, rhyngddibynnol ac, yn aml, ansefydlog sy’n siapio ein byd.
Mae Sownd yn gweithredu’r rhesymeg hon. Mae’r pileri caergawell yn Ystafell 2 – “bron yn ffrwydro gyda ‘stwff’” – yn gyrff cyfansawdd o wybodaeth, wedi’u llenwi â geodecstilau, gweiriau, papur, rhaff, pridd, graean, a deunydd ymchwil. Maen nhw’n “ddieithriaid rhyfedd” (strange strangers) yn ystyr Morton: endidau na fyddwn yn eu hadnabod yn llawn, ond eto rhaid dysgu byw â nhw. Daw’r gofod, wedi’i lenwi gan y deunyddiau hyn, yn gofnod o ymblethiad. Mae’r gosodwaith sain, gyda’i leisiau symudol a’i dymoroldebau haenog, yn cwiario llinoledd y naratif a’r sefydlogrwydd hunaniaeth.
Fel curadur, rwy’n tynnu hefyd ar gatalog More than Human: Making with the Living World y Design Museum, sy’n dadlau dros symud o ddylunio ar gyfer natur i ddylunio gyda hi. Mae’r persbectif hwn yn taflu goleuni ar sylw’r gosodwaith ar brosesau ecolegol, rhyngddibyniaeth faterol, a hunan reolaeth systemau annynol. Fel y projectau a ddogfennwyd yng nghatalog y Design Museum, mae Sownd yn ymwrthod â naratifau anthropoganolog, yn hytrach mae’n rhoi blaendir i weithredu ar y cyd, dwyochredd, a deallusrwydd araf tirwedd megis mawndiroedd.
---
VI. Awyrgylch, Materoldeb, a’r Bensaernïaeth o Deimlo
Mae rhyw ymdeimlad tebyg i Zumthor yng nghyfansoddiad gofodol Sownd. Mae Peter Zumthor yn ysgrifennu am bensaernïaeth fel awyrgylch – maes o synhwyrau, atgofion, a phresenoldebau materol. Mae’n disgrifio sut mae rhai gofodau yn “cyffwrdd â mi gyda’u materoldeb,” sut mae coed, carreg, a golau’n gallu creu tymheredd emosiynol.
Mae’r llwybr bordiau yn Sownd yn gweithredu yn y cywair hwn: ei arwynebau pren meddal, ei berthynas â’r tyllau yn Ystafell 3, ei newidiadau mewn uchder a lled, oll yn coreograffu cyfarfyddiad gyda daear ansefydlog y gosodwaith. Fel awyrgylchoedd Zumthor, mae Sownd yn gwahodd ymwelwyr i ofod caiff ei deimlo yn ogystal â’i ddeall, lle mae deunydd, sain, ac iaith yn cyfuno er mwyn cynhyrchu dwysedd tawel ond penderfynol.
Yma, rwy’n tynnu hefyd ar Tim Ingold, mae ei ysgrifennu am greu, deunyddiau a “rhwyllwaith” bywyd yn cynnig lens gref ar gyfer deall teimladrwydd perthynol y gosodwaith. Mae Ingold yn dadlau nad sylweddau goddefol yw deunyddiau ond cyfranogwyr gweithredol mewn prosesau o ddyfod – yn symud yn barhaus, yn berthynol yn barhaus. Mae hyn yn cyseinio gyda’r pileri caergawell, y llwybr bordiau, a’r sain sy’n diferu drwy’r gofod. Yn nhermau Ingold, mae Sownd yn llai o drefniant gwrthrychau na maes o gyfatebiaethau, lle mae grymoedd dynol ac annynol yn cyd- gyfansoddi’r amgylchedd. Dyma fy fframio curadurol, wedi’i gynnig i oleuo deinamigau mwy-na-dynol y gwaith.
---
VII. Strwythurau Anweledig, Bydoedd Cyfansawdd
Mae hefyd rhyw nodwedd debyg i Calvino ym mhensaernïaeth Sownd – ysgafnder nad yw’n lleihau dyfnder, ond yn hytrach yn caniatáu deunyddiau, ieithoedd, a hanesion i gylchredeg gyda grym perthynol newydd. Fel dinasoedd anweledig Le città invisibili, mae’r arddangosfa’n ymddatod fel cytser o ddernynnau: gwrthrychau, seiniau, a thestunau sy’n ffurfio byd cyfansawdd wedi’i adeiladu o atgof, ecoleg, a dychymyg. Mae Calvino yn ein hatgoffa bod y strwythurau sy’n siapio ein bywydau yn aml yn anweledig – ceryntau, straeon, enwau, gwaddodion – ac mae Sownd yn gwneud y strwythurau hyn yn ddiriaethol.
Mae’r grid o wrthrychau wedi’u canfod yn Ystafell 1, y pileri cywasgedig yn Ystafell 2, y sain haenog yn Ystafell 3, a’r gofod myfyriol yn Ystafell 4 gyda’i gilydd yn ffurfio archipelago o gyfarfyddiadau. Mae pob ystafell yn ynys; y llwybr bordiau yw’r cerrynt sy’n eu cysylltu.
---
VIII. Tuag at Ddyfodol sy’n Cofio
Mewn cyfnod a nodweddir gan argyfwng ecolegol, erydiad ieithyddol, a darnio diwylliannol, mae Sownd yn cynnig model sylw gwahanol - un sy’n araf, yn haenog, ac yn berthynol. Mae’n holi beth mae’n ei olygu i fyw mewn byd lle nad yw unrhyw beth yn barhaol, lle mae’r ddaear ei hun yn crynu, a lle mae hanesion bob amser yn y broses o gael eu hailysgrifennu.
Mae’r arddangosfa’n cynnig bod gwytnwch i’w gael nid mewn solidedd ond mewn ymblethiad. Fel mawndiroedd, fel ieithoedd lleiafrifedig, fel chwedlau’r Mabinogi, fel dinasoedd Calvino, fel yr Old Speech yn Earthsea, mae Sownd yn fyd wedi’i adeiladu o ddernynnau – byd sy’n dyfalbarhau drwy’r perthynol.
Mae’n ein gwahodd i wrando ar yr hyn sy’n gorwedd dan yr wyneb.
I synhwyro’r byd o dan y byd.
I ganfod, o fewn y ddaear ansefydlog, rhywbeth sy’n sylfaenol gadarn.