Cymraeg

Gwneud Llyfrau gyda Carole King

Gweithdai a Chyrsiau | 5 Medi 2026 - 5 Medi 2026

Creu Llyfr Atgofion – llyfr wedi'i rwymo yn y dull Coptig, gyda phocedi ac amlenni

Mae llyfrau atgofion yn rhoi cartref i'ch holl bethau bach gwerthfawr. Ydych chi wedi meddwl ble i gadw'r cerdyn Dydd San Ffolant hwnnw, y tocyn bws, y cwlwm o wallt o'r toriad gwallt cyntaf, ac atgofion o wyliau a digwyddiadau?

Beth am greu llyfr i chi'ch hun gyda phocedi ac amlenni, wedi'i orchuddio â phapur hardd sydd wedi'i argraffu â llaw? Bydd yn cael ei rwymo mewn cloriau caled gan ddefnyddio'r dull rhwymo Coptig addurniadol.

Bydd pob llyfr gorffenedig tua 14.5 x 19.5 cm o faint, a bydd yn cynnwys tair amlen, tudalennau plaen (gwyn a lliw) ac ychydig o bocedi.

Diwrnod llawn: 10am – 4.30pm

Dewch â phecyn bwyd gyda chi. Darperir diodydd.

£65 y pen

manual override of the alt attribute
Screenprinting handprinted papers
Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau



Digwyddiadau Cysylltiedig