Caredig i'r Meddwl - Gwyliau Pasg
Gweithdy ar gyfer plant 7 - 11 mlwydd oed
Dydd Mercher 3ydd Ebrill 2024 11am - 1pm
Mae Caredig i'r Meddwl yn cefnogi plant i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar,hyder ac ymdeimlad o le yn y byd trwy chwarae creadigol.
Mae hwn yn gyfle gwych i blant dreulio amser yn dod i adnabod ei gilydd a gweithio gydag artistiaid i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar trwy greadigrwydd.
Hud Natur a Phlastig gyda Bethany Clewes
Gan ddod â'r bydoedd naturiol a dynol ynghyd,byddwn yn archwilio ein hamgylchedd ac yncasglu deunyddiau naturiol diddorol. Byddwn yn pwyso ein trysorau i mewn i blastigau ail fywyd,gan greu llawer o sgwariau unigol y bydd cwilt cyfunol hudolus yn dod i'r amlwg ohonynt.
Mae Oriel Davies a'r sefydliad celfyddydol Ennyn yn cydweithio i ddatblygu rhaglen greadigol gynhwysol i blant sy'n annog chwarae,archwiliad a hunan fynegiant.
Mae Ennyn yn sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yn y Canolbarth sy'n darparu rhaglen gelfyddyd gymunedol ddwyieithog.
Bethany Clewes Mae Beth gan BA Anrhydedd mewn Drama ac Ysgrifennu Creadigol ac mae ei gyrfa wedi troi o gwmpas hwyluso plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o ofodau,sydd dros y blynyddoedd wedi cynnwys gweithdai mewn barddoniaeth,dawns,drama,crefft. Fel hyfforddwraig awyr agored cymwysedig,mae beth wewdi darparu llawer o adeiladu tîm,gweithgareddau ac anturiaethau yn awyr agored (ar i tir a dŵr). Mae Beth yn angerddol iawn am fynd allan i fyd natur ac archwilio.
Yn ddiweddar cwblhaodd brentisilaeth mewn Ffasiwn a Thecstiliau a dysgodd sgiliau gwniadwraig sampl. Yn ei hamser rhydd,gallwch ddod o hyd iddi ar anturiaethau,ymhlith ffrindiau neu greu rhywbeth cartref.
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.