Cymraeg

Ein Ynysoedd

Arddangosfa yn Dathlu Celfyddyd Bywyd Gwledig

Arddangosfeydd | 26 Medi 2020 - 13 Mawrth 2021

Mae Oriel Davies yn falch o gyflwyno Ein Ynysoedd, brosiect a sefydlwyd gan Angus D. Birditt & Lilly Hedley sy’n archwilio crefftwaith bywyd gwledig yn Ynysoedd Prydain, gan ganolbwyntio ar ei fwyd a’i ddiod, natur a thirwedd, crefft a threftadaeth. Ei nod yw dathlu, ac rywsut fynd i warchod, bywyd gwledig Ynysoedd Prydain.

Mae arddangosfa Our Isles yn Oriel Davies yn gasgliad o waith sy’n ceisio dathlu a chodi ymwybyddiaeth o fywydau gwledig sydd ‚ chysylltiad dwfn ‚’r dirwedd, pobl sy’n defnyddio eu gwybodaeth a’u sgil i wneud bywoliaeth o’r tir. Mae’r casgliad, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn dilyn ymlaen o lyfr barddoniaeth darluniadol newydd Angus a Lilly a gyhoeddwyd gan Pavilion Books o’r enw Our Isles: Poems Celebrating the Art of Rural Trades and Traditions. Mae’r llyfr yn dathlu bywyd gwledig trwy farddoniaeth a gwneud printiau. Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffiaeth a barddoniaeth Angus, gwneud printiau Lilly, a detholiad o artistiaid, y mae eu gwaith wedi’i ysbrydoli gan yr amgylchedd gwledig; Chloé Rosetta Bell, Maria Bell, Max Birditt, Phillip Boyd, Rosie Brown, Christian Doyle, Lottie Hampson, Mohamed Hassan, Grania Howard, Rory Hudson, Alex Ingram, Olivia Lucy, Jaime Molina, Joanna Porter, Alex Walshaw a Jac Williams.

Cliciwch yma i gael Canllaw Arddangosfa

manual override of the alt attribute
Taith fer o amgylch Ein Ynysoedd
Oriel Davies Ein Ynysoedd

Gwnaethpwyd y fideo hon fel rhan o'n rhaglennu Criw Celf. Mae'n cynnwys Angus D Birditt a Lilly Hedley yn siarad am yr arddangosfa Ein Ynysoedd a gomisiynwyd gan Oriel Davies yn 2020/2021. Cafodd ei ffilmio a'i gynhyrchu gan Dewi Lloyd. Cefnogwyd y prosiect a'r arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Arweinir Criw Celf gan Gyngor Sir Powys a'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy'r Loteri Genedlaethol. Cyhoeddir y llyfr, Our Isles, gan Pavilion Books.

Tocynnau

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r Oriel ar agor dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 11-4. Gallwch archebu ymlaen llaw. Cyswlltwch ni am wyboadaeth mwy.