Cymraeg

Portreadau o Blanhigion

Carolina Caycedo

27 Medi 2023 - 31 Gorffennaf 2024

Ar gyfer AM10, mae Caycedo wed ailgynhyrchu nifer obortreadau planhigion fel finylau allanol, gan gydnabod y rhyngweithiad rhwng adeilad Oriel Davies a pharc y Drenewydd sy'n ei hamgylchynu.

manual override of the alt attribute

Portreadau o Blanhigion

In Yarrow We Trust, Mamma NettleWheel, Rude Girl (Rue), Anti Inflammatory (Comfrey), 2021-parhaus

Drwy gwrteisi'r artist

Mae Plant Portraits Caycedo yn gyres barhaus sy'n cyflwyno planhigion a pherlysiau fel gwrthrychau gwleidyddol, gyda'r gallu i iachau, meithrin a newid cwrs digwyddiadau. Nod y gyfres yw gweithredu fel rhwydwaith o deimladau a chysylitiadau rhyng-rywogaethol rhwng endidau dynol ac endidau eraill, Ile caiff hierarchaethau anthroposentrig a pherthnasau pwer eu westiynu, a lle gynigir safbwyntiau eraill er mwyn cysylitu à natur.

Ar gyfer AM10, mae Caycedo wed ailgynhyrchu nifer obortreadau planhigion fel finylau allanol, gan gydnabod y rhyngweithiad rhwng adeilad Oriel Davies a pharc y Drenewydd sy'n ei hamgylchynu. Mae'r portreadau yn cynnwys Llysiau'r gwaed, Danadl poethion, Llysiau'r cwwm a Ruw, perlysiau a fu o gymorth i'r artist yn ystod genedigaeth a'r cyfnod ar ôl y geni.

Rude Girl (Rue)

Yn ei hymarfer, mae Caycedo yn aml yn cyfeirio'n benodol at fudiadau cyfiawnder amgylcheddol a arweinir gan fenywod. Ategir y gyfres o feinylau Portreadau Planhigion ar ddrysau allanol Oriel Davies Gallery gyda dau waith testun yn cynnwys dyfyniadau o faneri hanesyddol Gwersyll Heddwch Comin Greenham (Thalia Campbell) a osodwyd yn Oriel 1 tan 25/02/24, ar fenthyg gan yr Amgueddfa Heddwch yn Bradford. Ym 1981, gorymdeithiodd y grŵp Cymreig "Women for Life on Earth" o Gaerdydd i Gomin Greenham yn Berkshire, Lloegr, i herio'r penderfyniad i leoli 96 o daflegrau mordaith niwclear yno. Ar ôl cyrraedd, anfonasant lythyr at y Cadlywydd Sylfaen a oedd, ymhlith pethau eraill, yn nodi, 'Yr ydym yn ofni am ddyfodol ein holl blant ac am ddyfodol y byd byw sy'n sail i bob bywyd'.

Women For Life On Earth