Cymraeg

Qwerin

Perfformio yn y Ffair Wanwyn dydd Sul 30ain Ebrill

Arddangosfeydd | 30 Ebrill 2023 - 30 Ebrill 2023

Mae’r perfformiad cyffrous hwn ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd ac nid yw i’w golli!

manual override of the alt attribute


Perfformiadau Dydd Sul 30 Ebrill 4pm a 6.30pm (perfformiadau yn para am 30 munud)

'Yn llawn asbri, lliw a rythmau cyffrous, ysbrydolwyd QWERIN gan wead a phatrymau'r ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni heintus bywyd nos Cwiar. Mae QWERIN yn cynnig sylwebaeth ar y cysyniad o ‘Queerness’ a Chymreictod mewn perfformiad dawns gyfoes sy’n ddathliad egnïol o ddiwylliant, hunaniaeth a chymuned. Perfformir i sgôr sain wreiddiol gan rai o gerddorion amlycaf Cymru â gwisgoedd trawiadol sy’n rhoi blas newydd i’r wisg draddodiadol Gymreig. Mae QWERIN yn wledd i’r glust a’r llygad.

Cafodd QWERIN ei greu yn ystod haf 2021 dan gomisiwn arbrofol i Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Yn 2022 cafodd ei ddatblygu i fod yn ddarn cyflawn drwy gymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru a chymorth cefnogol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru'.

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau



Digwyddiadau Cysylltiedig