Cymraeg

Walkie Talkie efo Emma Beynon

Gweithdy Ysgrifennu Creadigol a Cherdded

Gweithdai a Chyrsiau | 17 Tachwedd 2023 - 17 Tachwedd 2023

Ymunwch a Emma Beynon am daith cerdded a gweithdy ysgrifennu creadigol yn Dre Newydd.

manual override of the alt attribute

Ymunwch a Emma am daith cerdded a gweithdy ysgrifennu creadigol yn Dre Newydd. Bydd y gweithdy yn Oriel Davies Gallery yn defnyddio'r syniad o dechnegau tecstilau fel ysbrydoliaeth ar gyfer barddoniaeth: drwy edrych ar batrymau ac ailadroddiad, ynghyd a phwytho a brodwaith i ddod a’r cerddi i fyw.

Bydd cyfle hefyd i gasglu ysbrydoliaeth gan Natur wrth gerdded drwy'r Parc ac ar hyd yr Afon Hafren. Bydd y gweithdy yn gyfle i ysgrifennu, adlewyrchu a rhannu barddoniaeth yng nghwmni eraill. Bydd y gweithdy yma yn addas ar gyfer dechreuwyr, a bydd y daith cerdded yn dyner.

Byddwn yn darparu defnyddiau ysgrifennu ond yn argymell dod a hoff pen neu lyfr nodiadau os oes gennych chi. Os gwelwch yn dda, dewch a rhywbeth i fwyta i ginio yn y prynhawn neu bydd cawl ar gael i’w brynu o’r Caffi yn yr Oriel. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd penodol.

Er mwyn caniatáu cyfranogiad mor eang â phosibl yn y cwrs, mae'n bosib benthyg offer tywydd gwlyb ac esgidiau cerdded gan ein ffrindiau, Y Bartneriaeth Awyr Agored. Gallwn hefyd addasu llwybrau cerdded yn ôl yr angen. Os na fydd y tywydd yn dda, caiff y gweithdy ei gynnal dan do gyda thaith gerdded fer ddewisol dros yr afon.

Dros y misoedd nesaf, bydd rhagor o walkie-talkies yn cael ei gynnal yn Llanidloes, Carno (neu Caersws), Machynlleth a Trallwng. Bydd manylion o’r rhain yn cael ei ryddhau yn fuan.

/

Mae’r daith cerdded yma yn rhan o’n prosiect Walkie Talkie sydd yn dathlu’r canmlwyddiant o Laura Ashley, ffigwr penodol yn hanes yr ardal leol a hefyd yn y dyluniad a chynhyrchiad o decstiliau.

Fel rhan o’r prosiect, mae Oriel Davies am gomisiynu 5 artist i arwain 5 taith cerdded ar draws y trefi canlynol, lle bu siop Laura Ashley yn bodoli: Carno (neu Caersws), lleoliad ffactri Laura Ashley, Y Trallwng, Dre Newydd, Llanidloes a Machynlleth.

Datblygodd Laura Ashley ei fusnes gyda’r syniad o deulu yn ganolog. Un o’r syniadau a ddefnyddiwyd oedd y ‘walkie-talkie’ - taith cerdded tu allan yn natur gyda’r teulu neu rhai o’r staff i siarad drwy syniadau a chefnogi lles.

Mae’r prosiect yma wedi ei ariannu gan The Ashley Family Foundation.

Llun: Jane Ashley

Delwedd gyfansawdd
Delwedd gyfansawdd: Un o 'Rhestrau Geiriau' Dylan Thomas. Trwy garedigrwydd Stad Dylan Thomas; Emma Beynon, ffotograffiaeth gan Alex Ramsay; Delwedd o Archif Teulu Ashley. Saethu ffasiwn, Lucy a Tim yn Rhydoldog, 1976, trwy garedigrwydd Jane Ashley.
The Ashley Family Foundation logo white on dark green
Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad

Gwerthu Allan

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau