Cymraeg

Walkie-Talkie

Prosiect i ddathlu’r canmlwyddiant o’r dylunydd lleol Laura Ashley

Mae Walkie Talkie yn brosiect sydd yn dathlu’r canmlwyddiant o Laura Ashley, ffigwr penodol yn hanes yr ardal leol a hefyd yn y dyluniad a chynhyrchiad o decstiliau.

Mae Oriel Davies am gomisiynu 5 artist i arwain 5 taith cerdded ar draws y trefi canlynol, lle bu siop Laura Ashley yn bodoli: Carno (neu Caersws), lleoliad ffactri Laura Ashley, Y Trallwng, Dre Newydd, Llanidloes a Machynlleth.

Gyda nifer o bobl yn yr ardal wedi gweithio i Laura Ashley, mae yna dapestri cyfoethog o straeon, atgofion a chysylltiadau o fewn ein cymunedau. Wedi ei hadnabod gan fwyaf am ei ddyluniadau ar gyfer ffasiwn a’r cartref, datblygodd Laura Ashley ei fusnes gyda’r syniad o ‘deulu’ yn ganolog. Er enghraifft, roedd Dyddiau Gwener yn hanner-diwrnodau gwaith gyda brecwast cymunedol i ddechrau’r bore yn y ffreutur. Syniad arall oedd y ‘walkie talkie’ - taith cerdded tu allan yn natur gyda’r teulu neu rhai o’r staff i siarad drwy syniadau a chefnogi lles.

Rydym yn gobeithio y bydd y gyfres yma o deithiau cerdded wedi ei harwain gan artistiaid, yn annog naws yr walkie talkies gyda cherdded yn weithgaredd cynhyrchiol sydd yn cefnogi creadigrwydd a myfyrio. Yn gweithio gydag artistiaid sydd â disgyblaethau artistig eang, gan gynnwys cerflun, ffotograffiaeth, symudiad, crefft ac ysgrifennu creadigol, bydd gan gyfranogion y cyfle i greu rhywbeth arbennig mewn gweithdy a fydd yn cael ei gynnal yn ystod neu ar ôl y daith cerdded.

Mae’r prosiect yn tynnu ar y themâu o symudiad, cof a chreu, ac rydym yn gwahodd unrhyw un a diddordeb mewn neu gyswllt a Laura Ashley, creadigrwydd neu gerdded i ymuno. Bydd lle cynnes yn cael ei ddarparu ar gyfer te a choffi o flaen llaw ac ar ôl pob taith, ac yr ydym yn anelu am weithio gyda’r elfennau naturiol gymaint ag sydd yn bosib! Bydd y teithiau cerdded yn tueddu i’r ochr hawdd, ond er hyn cysylltwch i ddarganfod mwy am y llwybrau penodol a’i hygyrchedd.

Caiff dyddiadau a’r artistiaid ei gyhoeddi yn fuan, ond am fwy o wybodaeth cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Oriel Davies Gallery neu cysylltwch â chynhyrchydd y prosiect Suzie Jones ar

orieldaviessuzie.jones@gmail.com

Mae’r prosiect yma wedi ei ariannu gan The Ashley Family Foundation.

Llun: llun o ‘Rise and Rise of Laura Ashley – 1976’, ATV and Sir Bernard Ashley Film Archives

You might also be interested in...