Myfyrdod Symud: Bronwen Wilson Rashad
Sesiynau i Ofalwyr a Phlant Bach: rhan o Croeso Cynnes
Mae’r myfyrdod symud hwn yn dod ag ymarfer dawns a phrofiad iechyd meddwl Bronwen ynghyd. Mae’n agored i rieni/gofalwyr sydd â babanod/plant bach. Mae Bronwen wedi gweithio'n helaeth gyda grwpiau uned deuluol. Byddwch yn cael eich tywys trwy ofod yr oriel gan ganolbwyntio ar wahanol synhwyrau a bydd hyn yn ysbrydoli symudiad ym mha bynnag ffurf y mae'n edrych. Rhyngweithio â'r arddangosfa a'i gilydd.
Bydd 2 x sesiwn 2awr
Artist dawns, Cyfarwyddwr Symud a bardd yw Bronwen Wilson Rashad sydd hefyd yn gweithio ym maes iechyd meddwl. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect dawns o fewn Celfyddydau mewn Iechyd gyda thîm Iechyd Meddwl Amenedigol Aneurin Bevan ac ar goreograffi ar gyfer cynhyrchiad newydd gyda’r cwmni theatr teuluol Familia de la Noche. Mae hi'n mwynhau dod â'i gwybodaeth am symud, iechyd a chwareusrwydd ynghyd i greu gofodau di-fygythiol lle gall pawb gael hwyl yn mynd i mewn i'w cyrff.
Bydd tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael ym mis Ionawr