CAPTURE -Taith Ffotograffiaeth i Bobl Ifanc
Gyda Mohamed Hassan Dydd Sadwrn 3ydd a dydd Sul 4ydd Mehefin 10.30 - 3.30pm

Cyrhaeddodd y ffotograffydd Mohamed Hassan Gymru wyth mlynedd yn ôl o wlad ei febyd, yr Aifft. Mae Mo wedi adeiladu gyrfa gyffrous yng Nghymru, yn tynnu lluniau o bobl, lleoedd a thirwedd.

Bydd Mo yn arwain dau weithdy cerdded drwy’r dydd yn dilyn taith gylchol o’r Drenewydd i Warchodfa Natur Pwll Penarth. Mae'r daith yn 6 milltir i gyd. Mwy o fanylion am y daith gerdded a'r modd y gellir ei chyrraedd yma https://newtown.org.uk/discove...
Bydd y gweithdai yn meithrin hyder a chysylltiadau, gan annog hunan fynegiant a chwilfrydedd yn yr amgylchedd. Bydd Mo yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i ddarllen yr amgylchedd naturiol a chasglu manylion diddorol sy'n aml yn cael eu hanwybyddu mewn bywyd bob dydd. Bydd angen i gyfranogwyr ddod â ffôn smart, byddant yn cael camera untro i'w ddefnyddio yn ystod y dydd hefyd.

Mae’r daith gerdded yn dilyn Llwybr Hafren, Camlas Maldwyn a’r 81 Llwybr Beicio Cenedlaethol i’r warchodfa natur, a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.
Mae gweithdai am ddim. Mae angen archebu lle gan fod lleoedd yn gyfyngedig. Cyfranogwyr i ddod â phecyn bwyd a diod a gwisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd.
Bydd Mo a staff oriel wedi'u gwirio gan y DBS gyda'r grwpiau bob amser.
Mae'r gweithdai yn rhan o Ŵyl Awyr Agored y Drenewydd a Art Fund's Wild Escape
Pob delw Mohamed Hassan



Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.