Taith Campweithiau’r National Gallery: REMBRANDT
Saskia van Saskia van Uylenburgh in Arcadian Costume
Bob blwyddyn, mae’r National Gallery yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chynulleidfaoedd ledled y DU er mwyn sicrhau y gall pawb ym Mhrydain ymhél â’i chasgliad cenedlaethol.
Mae Taith Campweithiau 2021‐23 y National Gallery yn bartneriaeth rhwng y National Gallery, Oriel Davies, y Drenewydd, The Beacon Museum, Whitehaven, ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i ddewis paentiad o’r National Gallery a’i arddangos mewn arddangosfeydd sy’n cynnig ffyrdd newydd i gynulleidfaoedd ledled y DU ymhél â’r paentiad.
© The National Gallery, Llundain
Saskia van Uylenburgh in Arcadian Costume (1635)
Roedd Rembrandt van Rijn (1606‐1669) yn byw yn ystod cyfnod llewyrchus iawn yn hanes Gweriniaeth yr Iseldiroedd, ar adeg pan oedd gan y weriniaeth reolaeth lwyr fwy neu lai dros fasnach yn Ewrop. Yn sgil y bwrlwm economaidd hwn, llwyddodd ymchwil wyddonol, gweithgareddau llenyddol a chelfyddydau gweledol i ffynnu.
Cychwynnodd Rembrandt ar ei yrfa fel arlunydd yn Leiden, ei ddinas enedigol, ond ar ddechrau’r 1630au symudodd i Amsterdam, sef dinas a oedd yn prysur wneud enw iddi’i hun. Fe’i denwyd yno yn rhannol gan yr addewid o gael comisiynau proffidiol gan ddosbarthiadau canol uwch llewyrchus y ddinas.
Roedd Saskia yn gyfnither i ddeliwr celf Rambrandt, sef Hendrick Uylenburgh, ac yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Amsterdam arferai Rembrandt fyw yn nhŷ Uylenburgh.
Rhannodd Rembrandt a Saskia eu bywydau am oddeutu wyth mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu Rembrandt yn paentio Saskia yn ddi‐baid, mewn sawl gwedd. Rhoddodd Saskia enedigaeth i bedwar plentyn, ond dim ond un ohonynt, sef Titus, a oroesodd fabandod. Bu farw Saskia rai misoedd yn unig ar ôl geni Titus. Crëwyd y paentiad hwn cyn i’r gyfres drasig hon o ddigwyddiadau ddod i ran y ddau, yn yr un flwyddyn ag y clywsant eu bod yn disgwyl eu plentyn cyntaf.
Gyda golau cryf o’r chwith, gwelir merch ifanc yn sefyll o’n blaen yn llawn hunanfeddiant a hyder. Mae hi’n syllu ar rywbeth yn y pellter, ac mae golwg synfyfyriol a llawn disgwyliad ar ei hwyneb. Mae ei gwisg yn gywrain: ffrog werdd lachar gyda bodis byr, tynn, gyddflin isel a llewys llawn ymchwydd, a cheir brodwaith euraid sy’n disgleirio yn y golau. Mae torchau o flodau mân yn addurno’i gwddf a’i phen, ac yn goron ar y cwbl ceir sbrigyn o ferywen. Caiff ei gwallt ei orchuddio gan fêl werdd. Yn ei llaw dde gwelir ffon â thendrilau eiddew wedi’u cordeddu o’i hamgylch; yn ei llaw chwith ceir tusw toreithiog o flodau, ac yn eu plith gwelir carnasiwns, melyn Mair, blodau’r llefrith, blodau ymenyn a thiwlipau.
Gan fod y ferch yn debyg i’r paentiadau a’r lluniau eraill a wnaeth Rembrandt o Saskia, y farn draddodiadol oedd mai priodferch ifanc Rembrandt oedd hi. Ond mae’r ffaith fod Rembrandt wedi’i phaentio mewn gwisg mor gywrain, gyda blodau a gwyrdd‐ddail, yn peri inni ofyn: ai gwir bortread o Saskia yw hwn, ynteu a wnaeth Rembrandt ddefnyddio Saskia fel model ar gyfer creu delwedd o rywbeth arall?
Gyda’i ddull gofalus o ddarlunio blodau a dail, mae paentiad Rembrandt yn dathlu harddwch byd natur. Mae ysblander gwyrddlas Saskia yn adlewyrchu’r diddordeb eang a oedd gan gyfoeswyr Rembrandt yn yr hyn a elwir yn Arcadia. Yn ôl y chwedlau a gâi eu hadrodd gan feirdd yr Hen Roeg a’r Hen Rufain, roedd Arcadia yn lle gwledig a diarffordd, heb ei ddifetha gan lygredigaeth gwareiddiad, lle arferai bugeiliaid, nymffau a lled‐dduwiau fyw mewn cytgord gyda natur. Roedd Arcadia a’i themâu bugeiliol yn eithriadol o boblogaidd yng nghymdeithas yr Iseldiroedd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, a châi hyn ei adlewyrchu mewn dramâu llwyfan hefyd, yn ogystal â phaentiadau (fel y gwelir yn y llun isod).
Rhoddwyd sawl teitl i’r paentiad hwn. Yn ôl rhai mae’n darlunio Fflora, sef duwies Rufeinig y Gwanwyn; dywed eraill ei fod yn darlunio’r fugeiles ddelfrydol, wedi’i gwisgo mewn dillad Arcadaidd. Mewn gwirionedd, nid yw’r ddau syniad hyn, nac unrhyw syniad arall, o angenrheidrwydd yn annibynnol ar ei gilydd. Efallai fod Rembrandt wedi mynd ati’n ymwybodol i ddefnyddio traddodiadau gwahanol, gan greu amwysedd bwriadol yn y gwaith terfynol. Câi Rembrandt ei gyfareddu gan wisgoedd, a thrwy gydol ei yrfa dewisodd baentio nifer o’i fodelau mewn dillad theatraidd, hanesyddol, a dychmygol hyd yn oed. Trwy wneud hynny, llwyddodd i ryddhau ei bwnc o hualau’r dull portreadu caeth, gan gyfleu rhywbeth mwy haniaethol: syniad, awyrgylch neu deimlad.
Gwisgwch fwgwd
Mae croeso i chi alw i mewn i ymweld â ni yn ystod ein horiau agor, ond mae’n bosib y bydd yna giw os byddwn ni hyd at ein capasiti.
Rydyn ni felly’n cynghori defnyddio ein system archebu AM DDIM yma i osgoi ciwio a bwcio slot ymweld o awr.