Cymraeg

Walkie Talkie efo Chloe Winder

Cyfres Walkie Talkies

Events | 23 Chwefror 2024 - 23 Chwefror 2024

Taith Cerdded a Gweithdy Darlunio efo Chloe Winder. 11am-3pm

manual override of the alt attribute

Ymunwch ac artist Chloe Winder am Walkie Talkie drwy ac o amgylch Machynlleth. Yn cwrdd yn MOMA yng nghanol y dref, byddwn yn mynd am daith cerdded ar hyd cyrion y dref wrth chwilio am ysbrydoliaeth ar hyd y ffordd.

Yn nol yn MOMA, bydd Chloe yn eich arwain mewn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau darlunio ar bapur i’ch annog chi i ddefnyddio’r synhwyrau i greu darluniau. Bydd y gweithdy yma hefyd yn cynnig y cyfle i weithio’n gydweithredol ac yn unigol ac i ddefnyddio eich atgofion a synhwyrau i hogi eich sgiliau arsylwi a darlunio. Bydd y gwethdy yn addas ar gyfer dechreuwyr.

Bydd y daith cerdded o dan 2 awr ac wedi ei raddio’n ‘hawdd’. Diolch i’r Bartneriaeth Awyr Agored, rydym yn medru darparu dillad awyr agored (esgidiau cerdded, cotiau glaw, trowsus). Os gwelwch yn dda, e-bostiwch orieldaviessuzie.jones@gmail.com efo eich maint dillad ag anghenion erbyn Dydd Mercher 14 Chwefror.

Gyda diolch i MOMA, Machynlleth.

Examples of anthrotype art.

Antrotype, gan Chloe Winder © Chloe Winder

Mae’r daith cerdded yma yn rhan o’n prosiect Walkie Talkie sydd yn dathlu’r canmlwyddiant o Laura Ashley, ffigwr penodol yn hanes yr ardal leol a hefyd yn y dyluniad a chynhyrchiad o decstiliau.

Fel rhan o’r prosiect, mae Oriel Davies am gomisiynu 5 artist i arwain 5 taith cerdded ar draws y trefi canlynol, lle bu siop Laura Ashley yn bodoli: Carno (neu Caersws), lleoliad ffactri Laura Ashley, Y Trallwng, Dre Newydd, Llanidloes a Machynlleth.

Datblygodd Laura Ashley ei fusnes gyda’r syniad o deulu yn ganolog. Un o’r syniadau a ddefnyddiwyd oedd y ‘walkie-talkie’ - taith cerdded tu allan yn natur gyda’r teulu neu rhai o’r staff i siarad drwy syniadau a chefnogi lles.

Mae’r prosiect yma wedi ei ariannu gan The Ashley Family Foundation.

The Ashley Family Foundation logo.
Tocynnau Gwybodaeth am y Lleoliad Gwybodaeth am Docynnau
Walk & Drawing workshop with Chloe Winder £0.00 PP*
Cyfanswm:

*Fesul person

Mae'r oriel ar agor:

Mawrth - Sadwrn 10 - 4

Caffi yn cau am 3

Ac eithrio digwyddiadau arbennig

Gwyliau banc ar gau

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Oriel Davies yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond rydym yn awgrymu rhoi rhodd wirfoddol yma i gefnogi ein gwaith parhaus gan ddarparu gweithdai, digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau hygyrch.



Digwyddiadau Cysylltiedig