Dewch i greu darnau gwreiddiol o ffotograffiaeth gyda’r artist Mohamed Hassan yn nhiroedd hanesyddol Castell Powis. Drwy’r gweithdy a thaith cerdded yma, byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol a chyd-destunol o sut i greu awyrgylch a drama yn eich lluniau gan ddefnyddio'r gerddi sydd wedi ei thirlunio, y caeau a’r coetir o amgylch y castell.
Mewn grwpiau bach, byddwch yn cael eich arwain mewn ffotograffiaeth portreadau, gan gymryd tro i fod yn ffotograffydd ac i eistedd yn nhiroedd y castell. Bydd y gweithdy yma yn addas i ddechreuwyr, er bod diddordeb mewn technegau ffotograffiaeth yn cael ei annog.
Bydd y daith cerdded yn para dan 2 awr ac wedi ei raddio’n ‘hawdd’. Diolch i’r Bartneriaeth Awyr Agored, rydym yn medru darparu dillad awyr agored (esgidiau cerdded, cotiau glaw, trowsus). Os gwelwch yn dda, e-bostiwch orieldaviessuzie.jones@gmail.com efo eich maint dillad ag anghenion erbyn Dydd Mercher 7 Chwefror.
Gyda diolch i Gastell Powis a’r National Trust.
Frosty woodland walk at Powis Castle and Garden, Wales © Edwin Van Hulzen
Mae’r daith cerdded yma yn rhan o’n prosiect Walkie Talkie sydd yn dathlu’r canmlwyddiant o Laura Ashley, ffigwr penodol yn hanes yr ardal leol a hefyd yn y dyluniad a chynhyrchiad o decstiliau.
Fel rhan o’r prosiect, mae Oriel Davies am gomisiynu 5 artist i arwain 5 taith cerdded ar draws y trefi canlynol, lle bu siop Laura Ashley yn bodoli: Carno (neu Caersws), lleoliad ffactri Laura Ashley, Y Trallwng, Dre Newydd, Llanidloes a Machynlleth.
Datblygodd Laura Ashley ei fusnes gyda’r syniad o deulu yn ganolog. Un o’r syniadau a ddefnyddiwyd oedd y ‘walkie-talkie’ - taith cerdded tu allan yn natur gyda’r teulu neu rhai o’r staff i siarad drwy syniadau a chefnogi lles.
Mae’r prosiect yma wedi ei ariannu gan The Ashley Family Foundation.
Gwerthu Allan
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn i gyd wedi'u gwerthu :(
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros, cysylltwch â ni: desk@orieldavies.org
Mae'r oriel ar agor:
Mawrth - Sadwrn 10 - 4
Caffi yn cau am 3
Ac eithrio digwyddiadau arbennig
Gwyliau banc ar gau