Beth mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud?
Mae ein gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n berthnasol i fywyd bob dydd o fewn sefydliad celfyddydau cyfoes prysur.
Mae rolau gwirfoddolwyr yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, oruchwylio arddangosfa, cefnogi gweithdai, cefnogi digwyddiadau, garddio a chreu a monitro adnoddau arddangos. Bod yn rhan o dîm oriel davies gan greu amgylchedd croesawgar a gwella profiad yr ymwelydd.
Bydd ein gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn ac yn cael eu cefnogi gan staff yr oriel bob amser. Mae Oriel Davies yn gadarnhaol ynghylch helpu unigolion i ddatblygu eu potensial.