Expression of Interest Volunteer Form
Garddwr Gwirfoddol
Cyfleoedd Gwirfoddolwyr Garddio Tymhorol
Mae ein garddwyr gwirfoddol yn cyfarfod y tu allan i’r oriel yn rheolaidd i ofalu am y plannu a’r mannau awyr agored yn Oriel Davies
A fyddai gennych ddiddordeb mewn helpu?
Rolau Allweddol
- Cefnogi datblygiad a chynnal a chadw gerddi Oriel Davies a’r mannau gwyrdd o amgylch
- Cefnogi digwyddiadau a chyfleoedd sy'n annog chwilfrydedd ynghylch natur, garddio a thyfu ar gyfer celf a lles
Cyfrifoldebau
- Ymgymryd ag ystod o dasgau garddio tymhorol yn unol â chais Oriel Davies
- Gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr / staff garddio eraill. Bydd tasgau'n cael eu dyrannu yn ôl galluoedd a dewisiadau unigol.
- Defnyddio amrywiaeth o offer llaw yn ddiogel yn unol â chyngor a roddir gan staff.
- Dod yn rhan o dîm parchus a chyfrifol sy’n darparu gofod diogel a chefnogol i bawb ddysgu a thyfu cariad at arddio a’r byd naturiol o’n cwmpas.
Diddordeb darganfod mwy?
Lawrlwythwch a chwblhewch Ffurflen Mynegi Diddordeb Gwirfoddoli a'i dychwelyd i'r oriel. Yna gallwn eich gwahodd i mewn am sgwrs anffurfiol a gallwch ddysgu mwy am y rolau gwirfoddoli sydd ar gael.