Cymraeg

RO250

Robert Owen 250
Roedd 2021 yn nodi 250 mlynedd ers genedigaeth Robert Owen yn y Drenewydd.

Roedd Robert Owen yn wneuthurwr tecstilau, yn ddyngarwr ac yn ddiwygiwr cymdeithasol a aned yn y Drenewydd, Powys 250 mlynedd yn ôl. Mae syniadau Owen am weithgynhyrchu egwyddorol, addysg ieuenctid a gofal plant meithrin, a’r pwysigrwydd o gymuned yn atseinio gyda ni ddwy ganrif a hanner yn ddiweddarach.

Fodd bynnag, bydd y prosiect hwn, sy’n seiliedig ar etifeddiaeth Robert Owen, yn dangos adlewyrchiad cyflawn o bob agwedd o’i hanes gan, gynnwys yr ochrau mwy anodd.

Er gwaethaf ei syniadau blaengar, ni wrthwynebodd Robert Owen barhad caethwasiaeth a'r defnydd o nwyddau o blanhigfeydd America. Mae'r diwydiant y gwnaeth ei arian ohono yn cyflwyno pryderon cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol ac mae gan lawer o'r pynciau hyn berthnasedd cyfoes, o gaethwasiaeth, llafur plant, ‘sweat shops’, anghydraddoldebau a chamfanteisio, i erydiad tir a ffasiwn cyflym (throwaway fashion); mae stori tecstilau yn holi llawer o gwestiynau ac yn pryfocio dadlau.

Nid yw'r prosiect hwn yn ceisio ailysgrifennu hanes, yn hytrach mae'n ceisio sicrhau ei fod yn cael ei adlewyrchu'n briodol. Yn dangos unigolion fel yr oeddent; y da gyda'r drwg.

Mi fydd prosiect Robert Owen 250 yn cynnig cyfle i drigolion y Drenewydd a’r gymuned leol i ystyried ac i weld etifeddiaeth Robert Owen mewn ffyrdd newydd.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys, Cyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn ac Amgueddfa Robert Owen. Cefnogir y prosiect hefyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Davies a Race Council Cymru.

Mae yna wahanol linynnau o brosiect Robert Owen 250

Mae darn parhaol o gelf gyhoeddus wedi’i gomisiynu ac yn cael ei greu gan yr artist proffesiynol, Howard Bowcott.

Lleisiau Amrywiol: Mae’r awduron Dylan Huw a Sadia Pineda Hameed wedi’u comisiynu i weithio gyda’r gymuned leol i ymateb i hanes, syniadau ac etifeddiaeth Robert Owen.

Sculpteen: Mae cystadleuaeth gerflunio leol ar gyfer pobl ifanc ar y cyd â Chanolfan Gelf Canolbarth Cymru wedi cynhyrchu rhai darnau eithriadol a'r briff yw archwilio bywyd a gwaith Robert Owen.

Mi fydd llwybr realiti estynedig (augmented reality trail) yn cael ei ryddhau yn y Drenewydd a fydd yn adrodd stori Robert Owen drwy 6 – 8 stop ‘ddigidol’.

Ailfeddwl am Amgueddfa Robert Owen
yn y Drenewydd gan gynnwys arddangosfeydd wedi’u hadnewyddu a fydd yn ddwyieithog am y tro cyntaf hefo disgrifiad eang o’i fywyd. Penodwyd Swyddog Allgymorth i weithio hefo’r ysgolion lleol am gyfnod hefyd.


Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys, Cyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn ac Amgueddfa Robert Owen. Cefnogir y prosiect hefyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Davies a Race Council Cymru.

You might also be interested in...